Sgwrs Defnyddiwr:Mattie

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
Shwmae, Mattie! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Message in English | Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 280,531 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes,

Deb (sgwrs) 02:11, 4 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Diolch! Mattie (sgwrs) 23:30, 4 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Ia, croeso - a diolch am erthygl ddiddorol iawn. Mae rhai o'r termau fel anti-consumerism yn rhai dieithr iawn i'r Gymraeg: ond mae'n bryd iddyn nhw gael eu defnyddio. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:42, 5 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Diolch iti am yr holl cywiriadau! :-) Mae'r Gymraeg yn dda iawn pan ddaw at ddyfeisio geiriau newydd, ac nid dim ond benthyca o'r Saesneg, sy'n fy ngwneud i'n hapus. Mattie (sgwrs) 18:28, 5 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

Dy farn[golygu cod]

Plis wnei di roi dy farn yn fama os gweli di'n dda? Da ni'n trio datblygu Wici-cy a cherdded ymlaen yn hyderus i'r dyfodol. Diolch i ti. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:27, 31 Mai 2012 (UTC)[ateb]

Diolch am ddangos hyn i mi, ond dw i'n amau a fedra i helpu: dw i ddim yn byw yng Nghymru a dw i ddim yn nabod neb sy'n medru'r Gymraeg. Ar hyn o bryd dw i'n ceisio helpu gan ysgrifennu erthyglau (a gyda llaw, diolch am gywiro fy Nghymraeg)! Pob lwc, beth bynnag! Mattie (sgwrs) 00:55, 2 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]