Neidio i'r cynnwys

Symudedd yn sgil newid hinsawdd

Oddi ar Wicipedia
Symudedd yn sgil newid hinsawdd
Enghraifft o'r canlynolegwyddor, disgyblaeth academaidd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysamrywioldeb yr hinsawdd, symudedd unigol Edit this on Wikidata

Mae symudedd yn sgil newid hinsawdd yn faes a astudir yn ddiweddar, gan fod y gallu i symud yn rhydd ac yn hwylus yn un o sgil effeithiau newid hinsawdd, mewn rhai rhannau o'r byd. Credir ei fod ar gynnydd. Mae canfod ateb i'r broblem yn rhan o'r maes hwn. Gellir cynnwys yn y maes hwn hefyd symudedd digidol, sef y gallu neu'r anallu i gysylltu ar y ffôn, neu dros y y we.

Mae mudo dynol oddi fewn i un wlad, neu o wlad i wlad ar gynnydd, a cheir cysylltiad cryf rhwng y mudo, neu'r ymfudo hwn a newid hinsawdd.[1]

Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd wedi dwysáu, ac mae canlyniad hyn yn cynnwys codiad yn lefel y môr, amrywioldeb hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol. Bydd mwy a mwy o bobl yn cael eu gorfodi oddi ar eu tiroedd ac allan o'u cartrefi. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn sawl rhan o'r byd, fel ag y mae gwrthdaro o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, a ragwelir i gynyddu dros y degawdau nesaf.[2]

Mae'r rhan fwyaf o boblogaeth y byd yn byw ar yr arfordiroedd, lle mae newid hinsawdd yn diraddio ac yn dinistrio tir, ac yn lleihau cynhyrchiant amaethyddol ymhlith pobl y mae eu bywoliaeth yn dibynnu'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ar adnoddau naturiol (ffermwyr, pysgotwyr, bugeiliaid).

Yn y dyfodol[golygu | golygu cod]

Yn ôl adroddiadau diweddar gan y Ganolfan Monitro Dadleoli Mewnol, mae peryglon sy'n gysylltiedig â'r tywydd eisoes yn cyfrif am fwy nag 87% o'r holl ddadleoli (yn dilyn trychinebau) yn fyd-eang, ac mae trychinebau wedi achosi mwy o ddadleoliadau mewnol newydd na gwrthdaro dros y deng mlynedd diwethaf.[3]

Mewn adroddiad a ddilynodd COP 21, dywedd y Cenehedloedd Unedig: "Yn 2015, mae pobl ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu dadleoli gan drychineb nag yr oeddent yn y 1970au. Disgwylir i effeithiau newid hinsawdd gynyddu dadleoli pobl o fewn gwledydd ac yn drawsffiniol gan effeithio ar strategaethau symudedd dynol." [4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. ecdpm.org; Teitl: Human mobility and climate change: Migration and displacement in a warming world; awdur: Caroline Zickgraf, ECDPM Great Insights; adalwyd 21 Mai 2021.
  2. nature.com; Teitl: Assessing the relative contribution of economic, political and environmental factors on past conflict and the displacement of people in East Africa gan Erin Llwyd Owain & Mark Andrew Maslin; Ebrill 2018. Adalwyd 21 Mai 2021.
  3. ecdpm.org; Teitl: Human mobility and climate change: Migration and displacement in a warming world; awdur: Caroline Zickgraf, ECDPM Great Insights; adalwyd 21 Mai 2021.
  4. unhcr.org; Teitl: CLIMATE CHANGE AND HUMAN MOBILITY; SOLUTION AGENDA –RESILIENCE–PARIS COP 21; Advisory Group on Climate Change and Human Mobility.