Tashilhunpo

Oddi ar Wicipedia
Mynachlog Tashilhunpo

Mynachlog ger Shigatse, dinas ail-fwyaf Tibet, sydd â lle pwysig yn hanes a diwylliant Tibet yw Tashilhunpo Gompa ('Mynachlog Tashilhunpo'). Fe'i sefydlwyd yn 1447 gan Gendun Drup, y Dalai Lama 1af.

Anrheithwyd Tashilhunpo gan y Gurkhas o Nepal yn 1791 wrth iddynt geisio goresgyn Tibet. Llwyddasant i gipio Shigatse hefyd cyn i fyddin o Diberwyr a Tsieinaid eu gyrru yn eu holau i Kathmandu; ar ôl hynny fe'i gorfodwyd i gadw heddwch ac i adfer popeth a gafodd ei ddwyn o Tashilhunpo.

Tashilhunpo yw sedd draddodiadol y Panchen Lamas, y llinach tulku ail-bwysicaf yn nhraddodiad y Gelukpa (cangen o Fwdhaeth Tibet). Roedd gan y "Tashi" neu Panchen Lama awdurdod seciwlar dros dair ardal leol hefyd, on nid Shigatse ei hun, a lywodraethid gan dzongpön (prefect) o Lhasa.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: