Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959 Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)
Yn yr Oesoedd Canol cynnar gwelid sawl teyrnas annibynnol Gymreig yn blodeuo yng Nghymru , ond erbyn Oes y Tywysogion roedd teyrnasoedd Gwynedd, Powys a Deheubarth yn dominyddu.
Teyrnas Brycheiniog , a'i thiriogaeth yn cyfateb yn fras i Frycheiniog , de-ddwyrain Cymru.
Teyrnas Ceredigion , a sefydlwyd gan Geredig fab Cunedda yng ngorllewin Cymru.
Teyrnas Deheubarth , yn ne-orllewin Cymru, ail i deyrnas Gwynedd yn unig yn Oes y Tywysogion .
Teyrnas Dogfeiling , mân deyrnas yng ngogledd-dwyrain Cymru.
Teyrnas Dyfed , teyrnas gynnar ar diriogaeth y Demetae , seiliedig ar Benfro .
Teyrnas Erging , un o deyrnasoedd cynnar y de-ddwyrain a ddaeth yn rhan o Deyrnas Gwent ac wedyn Swydd Henffordd.
Teyrnas Glywysing , un o deyrnasoedd cynnar de-ddwyrain Cymru.
Teyrnas Gwent , un o deyrnasoedd cynnar y de-ddwyrain, cysylltiedig â'r Silwriaid a chylch Arthur .
Teyrnas Gwynedd , a sefydlwyd gan Cunedda o'r Hen Ogledd ac a dyfodd i fod y deyrnas Gymreig grymusaf yn Oes y Tywysogion.
Teyrnas Gŵyr , teyrnas fechan yn ne-orllewin Cymru, seiliedig ar benrhyn Gŵyr .
Teyrnas Morgannwg , teyrnas grymusaf de Cymru cyn dyfodiad y Normaniaid .
Teyrnas Powys , un o dair teyrnas rymusaf y wlad cyn iddi ymrannu yn y 12g :
Teyrnas Rhos , un o fân deyrnasoedd cynnar y Berfeddwlad a ddaeth yn rhan o Wynedd.
Teyrnas Seisyllwg , yn ne-orllewin Cymru, fu'n bodoli o tua 730 hyd 920.