Woody Guthrie

Oddi ar Wicipedia
Woody Guthrie
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata
Idioleganti-fascism Edit this on Wikidata
Label recordioFolkways Records, Cub Records Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1930 Edit this on Wikidata
Dod i ben1956 Edit this on Wikidata
GenreAmerican folk music, Canu gwerin, canu gwlad Edit this on Wikidata
Offerynnau cerddgitâr, ffidil, Harmonica, Mandolin, fiddle, llais Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.woodyguthrie.org Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Canwr a chyfansoddwr cerddoriaeth werin o Unol Daleithiau America oedd Woodrow Wilson Guthrie (14 Gorffennaf 19123 Hydref 1967), a adnabyddir fel Woody Guthrie. Roedd yn adnabyddus am ei gysylltiad â phobl y dref, y tlawd a'r gorthrymedig, yn ogystal â'i gasineb at ffasgiaeth a chamfanteisio.[1]

Creodd gannoedd o ganeuon gyda chynnwys gwleidyddol, caneuon traddodiadol eu naws a chaneuon i blant, yn ogystal â baledi a themâu byrfyfyr. Byddai'n perfformio'n aml gydag arwydd yn sownd wrth ei gitâr a oedd yn dweud "this machine kills fascists". Mae'n adnabyddus yn rhyngwladol am ei gân "This Land Is Your Land", sy'n dal i gael ei chanu mewn llawer o ysgolion yn yr Unol Daleithiau ac a gyfieithwyd i'r Gymraeg a'i chanu gan Dafydd Iwan ac fel sengl gyda Edward Morus Jones yn 1966. Mae llawer o'i ganeuon wedi'u harchifo yn Llyfrgell Gyngres yr Unol Daleithiau,[2] sydd hefyd yn cadw rhai llawysgrifau.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cafodd Guthrie ei eni yn Okemah, Oklahoma. Yn ystod y Dirwasgiad Mawr, teithiodd Guthrie gyda gweithwyr mudol o Oklahoma i California wrth ddysgu caneuon traddodiadol a blŵs. Roedd llawer o'i gyfansoddiadau'n ymdrin â'r Dust Bowl (sychder mawr y 1930au).[4]

Bu'n briod deirgwaith a bu'n dad i wyth o blant, gan gynnwys y cerddor gwerin Arlo Guthrie[5] a'r awdur Nora Guthrie, plant Marjorie Mazia Guthrie. Ar ddiwedd ei oes, er iddo gael ei effeithio gan afiechyd Huntington, bu'n arweinydd cenhedlaeth newydd o gerddorion gwerin, gan gynnal perthynas fentor gydag awduron megis Ramblin' Jack Elliott[6] neu Bob Dylan a dylanwadu ar lawer o rai eraill (megis Pete Seeger, Joan Baez, Johnny Cash, Bruce Springsteen neu Tom Morello).[4]

Ysgrifennodd hunangofiant, Bound For Glory, a gafodd ei wneud yn ffilm dan yr un enw, gyda David Carradine yn chwarae rhan Guthrie. Bu farw yn Efrog Newydd, yn 55 oed.

Ym 1988, cafodd enw Woody Guthrie ei gynnwys yn Oriel Anfarwolion Roc a Rôl. Yn 2000, cafodd ei anrhydeddu â Gwobr Cyflawniad Oes Grammy. Yn 2006, cafodd enw Guthrie ei gynnwys yn Oriel Anfarwolion Oklahoma. Ym 1987, dewiswyd "Roll on Columbia" fel cân werin swyddogol talaith Washington, ac yn 2001 dewiswyd "Oklahoma Hills" Guthrie i fod yn gân werin swyddogol talaith Oklahoma.

Roedd ganddo safbwyntiau gwleidyddol adain chwith, ac roedd yn cefnogi hawliau gweithwyr a ffermwyr. Roedd yn wrth-ffasgaidd o arddeliad ac yn wrth-hiliol; roedd Guthrie'n agos at y Blaid Gomiwnyddol, er nad oes cofnod ei fod yn aelod.[7] Gyda dechrau'r Ail Ryfel Byd a Chytundeb Molotov-Ribbentrop roedd yr Undeb Sofietaidd wedi'i lofnodi â'r Almaen Natsïaidd yn 1939, nid oedd perchnogion gwrth-Stalin radio KFVD yn gyfforddus â gogwydd gwleidyddol Guthrie ar ôl iddo ysgrifennu cân yn canmol cytundeb Molotov - Ribbentrop a goresgyniad Gwlad Pwyl gan yr Undeb Sofietaidd.[8] Gadawodd yr orsaf, gan orffen yn Efrog Newydd, lle ysgrifennodd a recordiodd ei albwm Dust Bowl Ballads yn 1940, yn seiliedig ar ei brofiadau yn ystod y 1930au, a enillodd iddo'r llysenw "Dust Bowl Troubadour".[9] Ym mis Chwefror 1940, ysgrifennodd ei gân enwocaf, "This Land Is Your Land". Dywedodd ei fod yn ymateb i'r ffaith fod Irving Berlin yn gor-chwarae "God Bless America" ar y radio yn ei dyb ef.[10]

Prif Ddisgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Clip o ddynes yn canu This Land is Your Land
  • Dust Bowl Ballads (1940)
  • Nursery Days (1951)
  • Songs to Grow on for Mother and Child (1956)
  • Bound for Glory (1956)
  • Ballads of Sacco & Vanzetti (1960)
  • Woody Guthrie Sings Folk Songs (1962)
  • Hard Travelin' (1964)
  • Library of Congress Recordings (1964)
  • Columbia River Collection (1987)
  • This Land Is Your Land, The Asch Recordings, Vol.1 (1997)
  • Muleskinner Blues, The Asch Recordings, Vol.2 (1997)
  • Hard Travelin', The Asch Recordings, Vol.3 (1998)
  • Buffalo Skinners, The Asch Recordings, Vol.4 (1999)
  • The Live Wire: Woody Guthrie in Performance 1949 (2007)
  • My Dusty Road (2009)
  • Woody At 100: The Woody Guthrie Centennial Collection (2012)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Christine A. Spivey (1996). "This Land is Your land, This Land is My Land: Folk Music, Communism, and the Red Scare as a Part of the American Landscape". Loyola University Student Historical Journal. Cyrchwyd 17 Mai 2020.
  2. "Woody Guthrie Bonneville Power Administration (BPA) recordings". Llyfrgell y Gyngres. Cyrchwyd 17 Mai 2020.
  3. "Woody Guthrie manuscript collection, 1935-1950". Llyfrgell y Gyngres. Cyrchwyd 17 Mai 2020.
  4. 4.0 4.1 "Woody Guthrie". The Dust Bowl. Cyrchwyd 17 Mai 2020.
  5. William Addams Reitwiesner. "Ancestry of Arlo Guthrie". Cyrchwyd 17 Mai 2020.
  6. Graalman, Sarah (9 Medi 2012). "Ramblin' Jack". This Land Press. Cyrchwyd 17 Mai 2020.
  7. Spivey, Christine A. "This Land is Your land, This Land is My Land: Folk Music, Communism, and the Red Scare as a Part of the American Landscape". Student Historical Journal 1996–1997, Loyola University New Orleans, 1996. Archifwyd o'r gwreiddiol ar June 25, 2008. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2012.
  8. Kaufman, Will (2010). "Woody Guthrie's 'Union War'". Hungarian Journal of English and American Studies (HJEAS) 16 (1/2): 109–124. JSTOR 43921756.
  9. Alarik, Scott. Robert Burns unplugged. Boston Globe, August 7, 2005. Retrieved December 5, 2007.
  10. Spitzer, Nick (15 Chwefror 2012). "The Story Of Woody Guthrie's 'This Land Is Your Land'". NPR Music. National Public Radio (NPR). Cyrchwyd 3 Medi 2018.