Y Deyrnas Unedig yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision

Oddi ar Wicipedia
Y Deyrnas Unedig yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision
Enghraifft o'r canlynolcenedl yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision Edit this on Wikidata
Rhan oCystadleuaeth Junior Eurovision Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://junioreurovision.tv/country/united-kingdom Edit this on Wikidata

Dechreuodd cyfranogiad y Deyrnas Unedig yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision yn y gystadleuaeth gyntaf yn 2003 a gynhaliwyd yn Copenhagen, Denmarc. ITV, aelod-sefydliad o United Kingdom Independent Broadcasting (UKIB) ac Undeb Darlledu Ewropeaidd (UDE), oedd yn gyfrifol am broses ddethol eu cyfranogiad. Defnyddiodd y Deyrnas Unedig fformat dethol cenedlaethol, gan ddarlledu sioe o'r enw "Junior Eurovision Song Contest: The British Final", am eu cyfranogiad yn y cystadlaethau. Y cynrychiolydd cyntaf i gymryd rhan dros y genedl yng nghystadleuaeth 2003 oedd Tom Morley gyda'r gân "My Song For The World", a orffennodd yn y trydydd safle allan o un ar bymtheg o gynigion a gymerodd ran, gan sicrhau sgôr o gant a deunaw pwynt. Tynnodd y Deyrnas Unedig yn ôl o gystadlu yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision yn 2006, ac nid ydyn nhw eto wedi dychwelyd i'r ornest.

Cystadleuwyr[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Artist Cân Iaith Safle Pwyntiau
Cystadleuaeth Junior Eurovision 2003 Tom Morley "My Song for the World" Saesneg 3 118
Cystadleuaeth Junior Eurovision 2004 Cory Spedding "The Best is Yet to Come" Saesneg 2 140
Cystadleuaeth Junior Eurovision 2005 Joni Fuller "How Does It Feel?" Saesneg 14 28

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]