Y Nofel yn Gymraeg

Oddi ar Wicipedia

Mae'r Nofel Gymraeg yn agwedd bwysig ar Lenyddiaeth Gymraeg ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cydnabyddir nad yw'r nofel yn gyfrwng sy'n frodorol i'r iaith Gymraeg; bu nofelau yn yr iaith Saesneg o Loegr ac Unol Daleithiau America ar gael yng Nghymru peth amser cyn ysgrifennu'r nofelau Cymraeg cynharaf.[1] fodd bynnag erbyn heddiw mae nofelau yn yr iaith Gymraeg yn gyffredin ac yn rhan sylweddol o'r diwydiant cyhoeddi Cymreig. Bob blwyddyn ers 1978 rhoddir Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y nofel Gymraeg orau; nofel fer sy'n ennill y Fedal Ryddiaith yn aml hefyd, er nid o angenrheidrwydd.

Rhaglfaenwyr[golygu | golygu cod]

Argraffiad cyntaf Gweledigaetheu y Bardd Cwsc, 1703

Don Quixote gan Miguel de Cervantes yw'r gwaith a benodir fel arfer fel y nofel gyntaf mewn unrhyw iaith; ymddangosodd y nofel honno yn 1605. Fodd bynnag mae diffinio nofel yn gwestiwn amwys mewn unrhyw iaith; rhagflaenydd nofel Cervantes oedd y "rhamant" canoloesol a cheir tair engraifft o'r rhain yn y tair rhamant, a chyfrir ymhlith y chwedlau canoloesol.

Yn ddiweddarach cafwyd sawl enghraifft o lyfrau crefyddol alegorïol megis Llyfr y Tri Aderyn gan Morgan Llwyd (1653) a Gweledigaethau y Bardd Cwsc (1703) gan Ellis Wynne, a rhai o weithiau rhyddiaith William Williams, Pantycelyn er enghraifft Tri Wŷr o Sodom (1768). Nid ystyrir y rhain fel arfer yn nofelau yn yr ystyr fodern, er bod gan rai ohonynt, yn enwedig Gweledigaethau y Bardd Cwsc, rai o nodweddion nofel. Perthyn i'r un cyfnod a'r un categori hwyrach mae'r alegori Saesneg Taith y Pererin gan John Bunyan (1678). Ymddangosodd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf yn 1688, ac er nad ystyrir y llyfr hwnnw'n nofel chwaith roedd yn boblogaidd eithriadol yng Nghymru, ac yn sicr yn ddylanwad ar y traddodiad rhyddiaith brodorol.[2]

Nofelau Cynnar yn y Gymraeg: 1820au-1870au[golygu | golygu cod]

Gwilym Hiraethog (William Rees, 1802-1883) awdur Aelwyd F'Ewythr Robert, un o nofelau cynharaf yr iaith Gymraeg.

Roedd y nofelau Saesneg cynharaf megis Robinson Crusoe wedi dechrau ymddangos yn ystod y ddeunawfed ganrif. Byddai'r rhain wedi cael eu darllen yng Nghymru yn fuan iawn wedyn; ymddangosodd Robinson Crusoe mewn cyfieithiad Cymraeg erbyn diwedd y ganrif.

Fodd bynnag, mae'n ddadleuol pa waith yn union y dylid ystyried yn nofel gynta'r iaith Gymraeg. Ymddangosodd y straeon cyfres ffuglennol cyntaf yn yr 1820au; ymddengys mai'r cynharaf o'r rhain oedd Hanes Thomas Edwards gan Rowland Williams a ymddangosodd yn Y Gwyliedydd yn 1822-23.[3] Parhaodd y rhain i ymddangos dros y degawdau nesaf; er nad oedd y llinyn storïol yn gryf iawn yn aml ac efallai na fyddai'r mwyafrif yn nofelau yn ôl ein safonau ni heddiw. Soniwyd am Y Bardd, neu y Meudwy Cymreig gan William Ellis Jones (Cawrdaf), a gyhoeddwyd yn 1830, mewn rhai ffynhonellau fel y nofel Gymraeg gyntaf[4]; fodd bynnag dadleuodd Dafydd Jenkins bod llyfr Cawrdaf yn perthyn yn glir i linach Gweledigaethau y Bardd Cwsc, ac na ellir felly ei ystyried yn nofel heb enwi'r llyfr hwnnw a Taith y Pererin yn nofelau hefyd.[5] Y gwaith Cymraeg cynharaf y dylid ei ystyried yn nofel yn ôl Jenkins oedd Aelwyd f'Ewythr Robert gan Gwilym Hiraethog, a ymddangosodd fel cyfres yn 1852 ac fel llyfr y flwyddyn ganlynol.[6]. Cyfuniad diddorol yw'r nofel o fersiwn Cymraeg o Uncle Tom's Cabin gan Harriet Beecher Stowe (gwaith arall fu'n boblogaidd eithriadol yn y cyfnod mewn sawl cyfieithiad Cymraeg) o fewn stori fframio wreiddiol am gymeriadau Cymreig. Hon yn sicr oedd y nofel Gymraeg gyntaf i ymddangos ar ffurf llyfr; ond pan awgrymodd mai hon nofel gynta'r Gymraeg, nid yw'n glir a oedd Jenkins yn llwyr ymwybodol o bob stori cyfres a ymddangosodd yn y papurau newydd Cymraeg. Dylid nodi hefyd bod elfen o elitiaeth yn niffiniad Jenkins o nofel, gan ei fod yn diystyru llawer o weithiau cynnar ar sail eu hansawdd tybiedig: "gellid eu cyfrif yn nofelau... rhai yn unig ohonynt sydd yn wir nofelau".[7] Defnyddiwyd y termau rhamant neu ffugchwedl weithiau gan awduron a chyhoeddwyr ac mae hyn wedi peri rhagor fyth o ddryswch, fodd bynnag nid yw'n glir y byddai darllenwyr y cyfnod wedi ystyried y categorïau hyn yn ystyriol gwahanol i "nofel".

Llew Llwyfo (Lewis William Lewis, 1831-1901), un o nofelwyr cynnar yr iaith Gymraeg.

Cwestiwn amwys felly yw pryd yn union y dechreuodd y nofel yn Gymraeg; ond yn sicr roedd Aelwyf F'Ewythr Robert yn waith hollol arloesol o'i gymharu a'i ragflaenwyr, ffaith yr oedd yr awdur yn gwbl ymwybodol ohono.[8]

Dechreuodd nofelau Cymraeg ymddangos yn weddol gyson erbyn canol y 1850au. Fel cyfresi yn unig fyddai'r mwyafrif yn cael eu cyhoeddi, ond byddai'r rhai mwyaf poblogaidd yn cael eu troi'n llyfrau wedyn. Cynhaliwyd cystadleuaeth yn Eisteddfod Cymmrodorion Merthyr Tudful 1854 am "ffug-hanes" ar y testun "y meddwyn ddiwygiedig"; dyma ddechrau'r nofel ddirwestol"; cyhoeddwyd o leiaf tair o nofelau'r ymgeiswyr yn y flwyddyn ganlynol, sef Jeffrey Jarman gan Gruffydd Rhisiart, Henry James gan Egryn a Llyewlyn Parri gan Llew Llwyfo (enillydd y gystadleuaeth). Daethai cystadleuaethau ysgrifennu nofelau (yn Gymraeg neu Saesneg) yn ran gweddol aml o'r Eisteddfod Genedlaethol, ond ni fyddai cystadleuaeth flynyddol dan reolau cyson nes sefydlu Gwobr Goffa Daniel Owen yn 1978.

Nofelau Saesneg ac Americanaidd oedd modelau'r nofelwyr cynnar hyn. Roedd amheuaeth ynghylch budd a moesoldeb nofelau mewn rhai cylchoedd Anghydffurfiol ac er bod y cyndynrwydd i dderbyn nofelau wedi'i or-bwysleisio wrth drafod y nofel Gymraeg[9] cafodd yr agwedd hyn a'r awydd i greu a hyrwyddo gweithiau fyddai'n 'fuddiol' gryn effaith ar gynnwys a derbyniad y nofelau eu hunain.[10] Roedd y syniad y dylai nofel gynnwys moeswers fyddai'n fuddiol i ddatblygiad moesegol a chrefyddol y darllenydd yn gryf, a byddai obsesiwn gyda dirwest a pheryglon diota yn parháu i fod yn nodwedd gyffredin iawn mewn nofelau Cymraeg hyd yn oed mor ddiweddar â degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif[11], hyd yn oed mewn gwaith nofelwyr fel Llwyfo a Daniel Owen nad oedd eu hunain yn ddirwestwyr. Fodd bynnag, roedd eithriadau, megis Wil Brydydd y Coed, nofel ddigrif gan David Owen a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Eglwysig Yr Haul o 1863-67 oedd yn dychanu Anghydffurfiaeth, ac y nofelau neu ramantau hanesyddol, genre poblogaidd arall yn y nofelau cynnar hyn gydag enghreifftiau cynnar yn cynnwys Dafydd Llwyd, neu Ddyddiau Cromwell gan Glasynys (1857), Owain Tudur gan William Pritchard (1863) a Rheinallt ap Gruffydd (1874) gan Isaac Foulkes. Ymddangosodd nofelau serch, nofelau antur ac hyd yn oed nofelau trosedd yn Gymraeg yn y papurau newydd a'r cylchgronau erbyn diwedd yr 1870au, y mwyafrif yn ddienw.

Arwyddocaol efallai yw'r ffaith mai gweithgaredd achlysurol yn unig oedd ysgrifennu nofelau i lawer o'r nofelwyr cynnar hyn: er gwaethaf natur arloesol Aelwyd f'Ewythr Robert dim ond un nofel eto byddai Hiraethog yn ei chwblhau, sef Helyntion Bywyd Hen Deiliwr. Oherwydd realiti cyd-destun economaidd ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg, nofelwyr amatur oedd y rhain i gyd yn yr ystyr eu bod yn cynnal eu hunain o ddydd i ddydd drwy weithio fel gweinidogion, pregethwyr, newyddiadurwyr ac ati. Ond hyd yn oed o ran eu gwaddol llenyddol, byddai llawer o'r nofelwyr cynnar hyn yn debygol o ystyried eu hunain yn feirdd yn hytrach na nofelwyr; effaith, hwyrach, cryfder y traddodiad barddol brodorol a'r Eisteddfod. Ysgrifenodd Hiraethog, er enghraifft, lawer mwy o farddoniaeth yn ei oes nag y gwnaeth o ryddiaith, er enghraifft, er mai fel nofelydd yr oedd ei ddawn amlycaf.[12] Bardd blaenllaw oedd Llew Llwyfo yn ei oes hefyd, a ennllodd y goron ddwywaith; ysgrifennodd nofelau eraill yn achlysurol ar ôl Llywelyn Parri dros gyfnod o 50 o flynyddoedd. Awgrymodd John Rowlands bod uchelgeisiau barddonol y nofelwyr hyn wedi cael effaith andwyol ar eu rhyddiaith, a bod cryfder y traddodiad barddol felly o bosib wedi llesterio datblygiad y nofel Gymraeg.[12]

Y Nofel yn ei Llawn Dwf: 1870au-1895[golygu | golygu cod]

Roger Edwards (1811-1886), fu'n cyfaill a mentor i Daniel Owen, ond hefyd yn nofelydd ei hun.

Chwarter olaf y ganrif oedd "oes aur" y Wasg Gymraeg, gyda ffrwydrad syfrdanol yn y nifer a chylchrediad y papurau newydd. Ynghyd â'r tyfiant sylweddol hwn daeth twf sylweddol yn y nofel Gymraeg, o ran niferoedd os nad o reidrwydd o ran ansawdd. Rhai o nofelwyr blaenllaw'r cyfnod hwn oedd Roger Edwards, a gyhoeddodd nifer o nofelau yn Y Drysorfa yn ystod chwedegau a saithdegau'r ganrif; Beriah Gwynfe Evans, golygydd Cyfaill yr Aelwyd, lle ymddangosodd nifer o'i nofelau o 1880 ymlaen, ac Elis o'r Nant. Gwelwyd hefyd ymddangosiad y nofelwyr benywaidd cyntaf, er enghraifft Mary Oliver Jones, oedd yn aelod o gylch Cranogwen, ac a gyhoeddodd ei nofel gyntaf yng nghylchgrawn Y Frythones a fwriadwyd ar gyfer merched, ac a marhcnadwyd atynt. Gwahaniaeth arwyddocaol rhwng y genhedlaeth newydd hon o nofelwyr oedd iddynt oll ysgrifennu nofelau yn rheolaidd, ac nad oedd ganddynt rhyw lawer o uchelgais fel beirdd.

Yn yr un cyfnod hefyd ymddangosodd nifer o gyfieithiadau, addasiadau a thalfyriadau o nofelau o wleydydd eraill; cyfrannodd y rhain at traddodiad Cymraeg ac ehangu gorwelion darllenwyr yr iaith.

Daniel Owen (1879-1895)[golygu | golygu cod]

Daniel Owen (1836-1895)

Y nofelydd pwysicaf, mwyaf llwyddiannus a mwyaf dylanwadol o'r genhedlaeth hon o bell ffordd fodd bynnag, ac nofelydd mawr gyntaf yr iaith Gymraeg, oedd Daniel Owen (1836-1895). Teiliwr o gefndir tlawd yn yr Wyddgrug, dechreuodd ysgrifennu ei nofelau yn gymharol hwyr yn ei fywyd yn dilyn awgrym ei gyfaill a'i fentor, Roger Edwards, golygydd Y Drysorfa.[13] Cyhoeddodd Owen pedwar o nofelau, Y Dreflan (1880), Rhys Lewis (1885), Enoc Huws (1891) a Gwen Tomos (1894); ac mae cydnabyddiaeth eang mai'r rhain yw uchafbwynt artistig rhyddiaith Gymraeg y ganrif, yn enwedig Rhys Lewis ac Enoc Huws. Nid oedd y nofelau hyn o reidrwydd yn dra gwahanol o ran cynnwys i nofelau eraill y cyfnod - maent yn disgrifio bywydau cymdeithasol a chrefyddol Cymry eu cyfnod, yn aml mewn fersiwn ffuglennol o fro'r awdur - ac maent yn dangos llawer o ystrydebau cyffredin nofelau'r cyfnod; mae rhai'n gweld gwallau strwythurol iddynt hefyd. Fodd bynnag, maent yn rhagori ar nofelau eraill y cyfnod o ran eu harddull ffraeth, darllenadwy a digrif, a'u cymeriadau cofiadwy, hoffus a gwreiddiol.

Bu nofel gyntaf Owen, Y Dreflan yn boblogaidd yn ôl safonau nofelau'r oes; ond llwyddiant ysgubol oedd Rhys Lewis, nofel Gymraeg fwyaf poblogaidd y ganrif. Fersiwn ffuglennol oedd y nofel o'r hunangofiannau pregethwyr oedd yn lyfrau poblogaidd; mae'n dilyn ei phrif gymeriad o'i blentyndod hyd at ei gystudd olaf. Hwyrach mai ei nofel nesaf, fodd bynnag, sefEnoc Huws yw'r gorau yn ôl safonau heddiw[14]; comedi cymdeithasol yw'r nofel hon sy'n dilyn siopwr sy'n cael ei rwydo gan dwyllwr sydd arno eisiau dwyn ei gyfoeth. Nid ystyrir ei nofel olaf, Gwen Tomos, yn lwyddiant ar yr un lefel ond serch hynny mae'n

Cymaint oedd llwyddiant a dylanwad Owen fel y rhoddir yr argraff gamarweiniol weithiau mai gydag yntau mae'r nofel Gymraeg yn dechrau[15][16]; "Nid oedd yn ddatblygiad o neb nac o ddim" yn ôl Thomas Parry.[17] Gorddweud oedd hyn[9] fel mae'r cyd-destun uchod yn dangos; fodd bynnag ni ellir gwadu na brofodd Owen yn fwy llwyddiannus ac yn fwy dylanwadol nag unrhyw nofelydd Cymraeg blaenorol nac, o bosib, wedyn. Daeth yn enwog trwy Gymru, ac yn dilyn ei farwolaeth codwyd cofgolofn a cherflun ohono yn yr Wyddgrug. Ef yw'r nofelydd Cymraeg cynharaf y darllenir ei waith yn eang hyd heddiw.

Dilynwyr Daniel Owen: 1895-1918[golygu | golygu cod]

T. Gwynn Jones yn y cyfnod pan oedd yn ysgrifennu nofelau.

Roedd Daniel Owen wedi dangos y ffordd a dangos beth oedd yn bosib i nofelydd yn yr iaith Gymraeg, ac nid rhyfedd efallai i gnwd o nofelwyr newydd ymddangos yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd a'r cyfnod yn union ar ôl ei farwolaeth, er na lwyddodd yr un ohonynt i ennill unrhywle'n agos i'r un bri. Mewn cyfnod pan oedd y wasg Gymraeg ar ei hanterth, newyddiadurwyr oedd llawer o'r nofelwyr hyn, yn eu plith T. Gwynn Jones, Gwyneth Vaughan, Winnie Parry, William Llewelyn Williams, a Richard Hughes Williams.

Er mai fel bardd yn bennaf adnabyddir T. Gwynn Jones heddiw, bu'n ysgrifennu nofelau mwy neu lai'n barhaus o 1898 pan gyhoeddwyd y cyntaf ohonynt, Gweddi Brad a Gofid a 1908, gan gwblhau rhyw ddeuddeg ohonynt, gyda'r mwyaf adnabyddus yn cynnwys Gorchest Gwilym Bevan (1899) ac Enaid Lewys Meredydd, nofel ffuglen wyddonol gynta'r Gymraeg.

Mae nofelau'r cyfnod hwn wedi rhannu beirniaid; "cysgodion gwan" o Daniel Owen oeddynt i Meic Stephens,[18] ac yn ôl Dafydd Jenkins bu'r nofel yn "crwydro yn yr anialwch" am ddegawdau ar ôl Owen.[19] Fodd bynnag, yn fwy diweddar mae beirniaid wedi ail-ystyried gwerth a champ nofelau'r cyfnod yma. Dylid ystyried T. Gwynn Jones, chwedl ei gofiannydd Alan Llwyd, yn "ewythr" y nofel Gymraeg (os Owen yw'r Tad) oherwydd ansawdd a darllenadwyedd ei nofelau,[20] ac mae Gwyneth Vaughan yn nofelydd o ansawdd sydd wedi'i hesgeuluso yn rannol oherwydd rhagfarn yn ôl ei chofiannydd hi, Rosanne Reeves.[21]

1918-1950[golygu | golygu cod]

  1. Jenkins, Dafydd; 'Y Nofel Gymraeg Gynnar' yn Williams, Gerwyn (gol.) (1999) Rhyddid y Nofel. Gwasg Prifysgol Cymru. tt.33-34.
  2. Millward, E. (1991) Cenedl o Bobl Ddewrion: Agweddau ar Lenyddiaeth Oes Fictoria. Gomer. t.120
  3. Millward, E. (1991) Cenedl o Bobl Ddewrion. Gomer. t.121
  4. Rowlands, John (1992) Ysgrifau ar y Nofel, Gwasg Prifysgol Caerdydd. t.6.
  5. Jenkins, Dafydd; 'Y Nofel Gymraeg Gynnar' yn Williams, Gerwyn (gol.) (1999) Rhyddid y Nofel. Gwasg Prifysgol Cymru. t.32.
  6. Jenkins, Dafydd; 'Y Nofel Gymraeg Gynnar' yn Williams, Gerwyn (gol.) (1999) Rhyddid y Nofel. Gwasg Prifysgol Cymru. t.29.
  7. Jenkins, Dafydd; 'Y Nofel Gymraeg Gynnar' yn Williams, Gerwyn (gol.) (1999) Rhyddid y Nofel. Gwasg Prifysgol Cymru. t.34.
  8. Millward, E. (1991) Cenedl o Bobl Ddewrion. Gomer. t.123
  9. 9.0 9.1 Millward, E. G. (1991) "Tylwyth Llenyddol Daniel Owen", Cenedl o Bobl Ddewrion, Gomer.
  10. "Madam Wen and the Two Rules of the Welsh Novel". Nation.cymru.
  11. "Gwyneth Vaughan, Folk Traditions and a Place for Women in the Welsh Literary Canon". Nation.cymru.
  12. 12.0 12.1 Rowlands, John (1992), Ysgrifau ar y Nofel. Gwasg Prifysgol Caerdydd tt.10-11.
  13. Foulkes, Isaac (1903) Daniel Owen: Y Nofelydd, Lerpwl: Isaac Foulkes.
  14. Rhys, Robert (2000) Daniel Owen
  15. T. R. Jones (1904) 'Daniel Owen', Cyres y Meistri 4.
  16. Ashton, Glyn (1976) 'Y Nofel', yn Bowen, Geraint, Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Ugeinfed Ganrif
  17. Parry, Thomas (1948), Hanes ein Llên, Gwasg Prifysgol Caerdydd.
  18. Stephens, Meic (1998) (gol.). Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru. Gwasg Prifysgol Caerdydd. t.536
  19. Jenkins, Dafydd; 'Y Nofel Gymraeg ar ôl Daniel Owen' yn Williams, Gerwyn (gol.) (1999) Rhyddid y Nofel. Gwasg Prifysgol Cymru. t.57.
  20. Llwyd, Alan (2019) Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones. Cyhoeddiadau Barddas.
  21. Reeves, Rosanne (2010) Dwy Gymraes, Dwy Gymru: hanes bywyd a gwaith Gwyneth Vaughan a Sara Maria Saunders.