Y ffin rhwng Liberia a'r Traeth Ifori

Oddi ar Wicipedia
Y ffin rhwng Liberia a'r Traeth Ifori
Map o'r ffin rhwng Liberia a'r Traeth Ifori.
Mathffin, ffin ar dir, maritime boundary, ffin rhyngwladol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolborders of Liberia, borders of Côte d'Ivoire Edit this on Wikidata
GwladBaner Liberia Liberia
Baner Y Traeth Ifori Y Traeth Ifori
Cyfesurynnau7.56°N 8.47°W Edit this on Wikidata
Hyd716 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae'r ffin rhwng Liberia a'r Traeth Ifori yn ymestyn rhyw 445 milltir o'r fan driphlyg â Gini yn y gogledd hyd at yr arfordir â Gwlff Gini, yng Nghefnfor yr Iwerydd, yn y de. Mae rhan ogleddol y ffin yn cyd-redeg mwy neu lai â blaenau Afon Nuon, prif lednant Afon Cestos, o'i tharddle yn y fan driphlyg—sef Mynydd Nuon yng Nghadwyn Nimba, yn neuheubarth Ucheldiroedd Gini—am ryw 115 milltir cyn troi i'r de-ddwyrain i fyny'r afonydd Nimoi a Dain am 16 milltir. Ym mlaenddyfroedd Afon Dain mae'r ffin yn neidio draw i Afon Boan am saith milltir, cyn ymuno â chwrs Afon Cavalla, am 445 milltir, hyd at ei haber. Am y rhan helaethaf o'i hyd, saif y goror ar ochr Liberia o'r afonydd. Mae'r ffin yn gwahanu siroedd Grand Gedeh, River Gee, Maryland, a Nimbia yn Liberia oddi ar ardaloedd Montagnes a Bas-Sassandra yn y Traeth Ifori.[1][2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]