Ysgol gyfun
Ysgol uwchradd yw ysgol gyfun, sydd ddim yn dewis eu disgyblion ar sail gallu na champau academaidd. Defnyddir y term yn gyffredin yn y Deyrnas Unedig, yn arbennig yng Nghymru a Lloegr, lle cyflwynwyd ysgolion cyfun tuag at ddiwedd yr 1960au a'r 1970au cynnar. Addysgir tua 90% o ddisgyblion Prydeinig mewn ysgolion cyfun.
Gan fod ysgol gyfun yn addysgu amrediad eang o bynciau ar draws y sbectrwm academaidd a galwedigaethol, deallir yn gyffredinol y bydd angen i'r ysgol fod o faint go fawr i allu derbyn plant o amryw eang o allu.
Gweithrediad[golygu | golygu cod]
Mae ysgolion cyfun fel arfer yn ysgolion cymunedol sy'n cymryd eu disgyblion o ardal leol sydd wedi cael ei diffinio gan yr awdurdod lleol, gelwir hwn yn dalgylch. Yng Nghymru a Lloegr mae gan rhieni ddewis i ryw raddau, o ba ysgol i anfon eu plant, nid yw'n anghyffredin i ddisgyblion deithio cryn bellter i'w hysgolion.
Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn defnyddio system lle gosodir y plant mewn set yn ôl gallu, ym mhob pwnc unigol. Mae tueddiad diweddar i ysgolion cyfun arbenigo mewn meysydd megis technoleg.
Mae pob ysgol gyfun yn derbyn plant rhwng 11 ac 16 oed. Mae gan rai chweched ddosbarth; mae'r mynediad i'r dosbarth yn agored, ac mae rhai disgyblion yn astudio cymwysterau Lefel A, tra bod eraill yn dilyn rhaglenni galwedigaethol.
Hanes a gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]
Tarddiad[golygu | golygu cod]
Cyn yr Ail Ryfel Byd, roedd addysg uwchradd yn brin ac yn ddrud. Ar ôl y rhyfel, darparwyd addysg uwchradd am ddim, hyd 14 o leiaf, yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon. Rheolwyd hyn o dan y System Tridarn a gafodd ei chyflwyno o dan lywydd y Blaid Geidwadol, Rab Butler, yr ysgrifennydd gwladol ar gyfer addysg ar y pryd. Eisteddai plant yr arholiad eleven plus yn eu blwyddyn olaf o addysg gynradd ac anfonwyd hwy i ysgol uwchradd modern, ysgol uwchradd technegol neu ysgol ramadeg, yn dibynnu ar eu gallu. Ni weithredwyd ysgolion technegol yn eang, ac am 20 mlynedd roedd y system yn ymarferol yn un deurannol, gyda chystadleuaeth ffyrnig am y llefydd a oedd ar gael ar gyfer yr ysgolion gramadeg, a amrywiai rhwng 15% a 25% yn dibynnu ar y lleoliad.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Ysgolion Cyfun Cynnar[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gweithrediad Wlad Eang[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Dadleuon Mawr Callaghan[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Statws Presennol[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Dadleuon a materion[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gwledydd Eraill[golygu | golygu cod]
Yr Alban[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gweriniaeth Iwerddon[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Sweden[golygu | golygu cod]
Roedd gan Sweden ysgolion gallu cymysg am rhai blynyddoedd cyn iddynt cael eu cyflwyno yng Nghymru a Lloegr, dilynwyd hyn fel un o'r modelau ar gyfer Cymru a Lloegr.
Ffindir[golygu | golygu cod]
Mae'r Ffindir wedi defnyddio ysgolion cyfun ers yr 1970au.
Yr Almaen[golygu | golygu cod]
Mae gan yr Almaen ysgolion cyfun sy'n cael eu adnabod fel Gesamtschule. Gall yr ysgol hwn cael ei fynychu yn lle'r system tair ysgol.