Neidio i'r cynnwys

Ana Maria Machado

Oddi ar Wicipedia
Ana Maria Machado
Ganwyd24 Rhagfyr 1941 Edit this on Wikidata
Rio de Janeiro Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Brasil Brasil
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Michel Arrivé Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, ysgrifennwr, arlunydd, nofelydd, awdur plant Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Archesgobol Gatholig Rio de Janeiro
  • Universidad Federal de Río de Janeiro Edit this on Wikidata
Arddullllenyddiaeth plant Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Hans Christian Andersen, Gwobr y Tywysog Claus, Prêmio Jabuti, Urdd Teilyngdod Diwylliant, Gwobr Machado de Assis Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.anamariamachado.com.br/ Edit this on Wikidata

Awdures o Frasil yw Ana Maria Machado (ganwyd 24 Rhagfyr 1941) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, arlunydd, nofelydd ac awdur plant. Gyda Lygia Bojunga Nunes a Ruth Rocha, fe'i hadnabyddir fel un o awduron benywaidd mwyaf poblogaidd Brasil. Derbyniodd Fedal Ryngwladol Hans Christian Andersen yn 2000 am ei "chyfraniad parhaol i lenyddiaeth plant".[1][2]

Fe'i ganed yn ninas Rio de Janeiro ar 24 Rhagfyr 1941.[3][4][5][6][7]

Coleg a gwaith[golygu | golygu cod]

Dechreuodd ei gyrfa fel arlunydd yn ninas Rio de Janeiro ac Efrog Newydd. Ar ôl astudio ieithoedd Romáwns, gwnaeth PhD gyda Roland Barthes yn y École pratique des hautes études ym Mharis. Gweithiodd fel newyddiadurwr i'r cylchgrawn Elle ym Mharis a'r BBC yn Llundain. Yn 1979, agorodd y siop lyfrau plant gyntaf ym Mrasil, 'Malasartes'.[3]

Yr awdures[golygu | golygu cod]

Gellir darllen ei gwaith ar sawl lefel, fel pob llenyddiaeth fawr. Soniai ei stori Menina Bonita do laço de fita (1986; cyfieithwyd i'r saesneg dan y teitl Nina Bonita: A Story yn 2001, ISBN 978-0916291631) am gwningen ddu a chwningen wen, sy'n priodi ac yn cael swp o lefrod bach o liwiau gwahanol rhwng y ddau sbectrwm gwyn a du, gan gynnwys smotiau, patrymog a llwyd; mae'r grwp yma'n ddelwedd am grwp ethnig yn y byd go-iawn, a phwysigrwydd cyfoeth yr amrywiaeth. Yn ei llyfr Era uma vez um tirano (1982) ceir tri phlentyn sy'n dyffeio'r teyrn lleol sydd wedi gwahardd lliw, meddyliau a hapusrwydd. Heb bwyntio bus at neb, mae Ana Maria Machado yn dweud moeswers am y sefyllfa real, gwleidyddol, ond yn ei wisgo gyda hiwmor, ac yn parchu'r darllenwr i ddarllen rhwng y llinellau, i'r neges real, cyfoes, gwleidyddol.

Mae ei llyfrau'n llawn dychan, a gelwir yr arddull yn "realaeth lledrithiol" (magical realism). Dywedir ei bod yn dilyn arddull awduron megis Jose Bento Monteiro Lobato, a oedd hefyd yn awdur llyfrau plant.[3] Mae ei hiaith yn llawn o eirfa chwareus, arddull sy'n boblogaidd iawn gan blant. Yn História meio ao contrário (1978), mae Ana Maria Machado yn troitrefn arferol y stori dylwyth teg ar ei ben i lawr, drwy ddechrau gyda "ac os na fuont farw, yna mae nhw'n dal i fyw heddiw!" ac yn gorffen gyda'r geiriau traddodiadol, poblogaidd "Un tro..."

Peth llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Alice e Ulisses, (novel), 1983
  • Tropical Sol da Liberdade, (novel), 1988
  • Canteiros de Saturno, (novel), 1991
  • Aos Quatro Ventos, (novel), 1993
  • O Mar Nunca Transborda, (novel), 1995
  • A Audácia dessa Mulher, (novel), 1999
  • Esta Força Estranha, (biography), 1998
  • Para Sempre, (novel), 2001

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Academia Brasileira de Letras am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Hans Christian Andersen (2000), Gwobr y Tywysog Claus (2010), Prêmio Jabuti (1997), Urdd Teilyngdod Diwylliant (2000), Gwobr Machado de Assis .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Hans Christian Andersen Awards". International Board on Books for Young People (IBBY). Retrieved 2013-08-02.
  2. "Ana Maria Machado" (pp. 102–03, by Eva Glistrup).
    The Hans Christian Andersen Awards, 1956–2002. IBBY. Gyldendal. 2002; Austrian Literature Online. Adalwyd 2013-08-02.
  3. 3.0 3.1 3.2 Kline, Julie (2000). "An Interview with Ana Maria Machado". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-09. Cyrchwyd 12 Mai 2013.
  4. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12017317w. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12017317w. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  6. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Ana Maria Machado". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  7. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014