Neidio i'r cynnwys

Briksdalsbreen

Oddi ar Wicipedia
Briksdalsbreen
Mathrhewlif Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolJostedal Glacier Edit this on Wikidata
SirStryn Municipality Edit this on Wikidata
GwladBaner Norwy Norwy
Cyfesurynnau61.6658°N 6.89°E Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddScandinavian Mountains Edit this on Wikidata
Map
Y rhewlif yng Ngorffennaf 2006

Briksdalsbreen (Cymraeg: rhewlif Briksdal) yw un o'r rhannau mwyaf hygyrch ac adnabyddus  o rewlif Jostedalsbreen. Mae Briksdalsbreen wedi'i leoli ym mwrdeisdref Stryn yn sir Sogn og Fjordane, Norwy. Mae'r rhewlif ar ochr ogleddol y Jostedalsbreen, yn Briksdalen (dyffryn Briks) sydd wedi'i leoli ym mhen draw dyffryn Oldedalen, tua 25 kilometre (16 mi) i'r de o bentref Olden. Mae wedi'i leoli ym Mharc Cenedlaethol Jostedalsbreen. Mae'r Briksdalsbreen yn diweddu mewn llyn rhewlifol bychan o'r enw Briksdalsbrevatnet, sydd 346 metre (1,135 ft) uwchlaw lefel y mor.[1] Mae maint Briksdalsbreen yn dibynnu nid yn unig ar dymheredd; mae hefyd yn cael ei effeithio gan ddyodiad. Mae mesuriadau ers 1900 yn dangos newidiadau bychain yn y degawdau cyntaf, a symudiad ym mlaen y rhewlif yn 1910 a 1929. Yn y cyfnod rhwng 1934 a 1951, ciliodd y rheiwlif gan tua 800 metre (2,600 ft), gan ddatgelu'r llyn rhewlifol. Yn y cyfnod rhwng 1967 a 1997 lledaenodd y rhewlif 465 metre (1,526 ft) a gorchuddio'r llyn yn gyfan gwbl, gyda blaen y rhewlif yn cyrraedd arllwysfa'r llyn. Cafodd y rhewlif sylw rhyngwladol yn y 1990au am ei fod yn tyfu ar adeg pan oedd rhewlifoedd Ewropeaidd eraill yn lleihau.[2]

Briksdalsbreen Norwy: cymharu 2003 a 2008

Ar ôl y flwyddyn 2000, ciliodd y rhewlif eto. Yn 2004 roedd wedi cilio i 230 metre (750 ft) y tu ol i arllwysfa'r llyn  ac yn 2007 roedd blaen y rhewlif ar dir sych y tu ol i'r llyn. Yn hyn o beth, roedd ei safle yn cyfateb i'r hyn ydoedd yn y 1960au. Fodd bynnag, mae arbenigwyr yn tybio bod maint y rhewlif ar ei leiaf ers y 13g.

Yn 2008, dim ond 12 metre (39 ft) roedd blaen y rhewlif wedi cilio ers iddo gael ei fesur yn 2007.[3] Yr esboniad dros arafiad yn ymdoddiad y rhewlif yw bod y rhewlif bron yn gyfan gwbl ar dir sych. Gwelodd aeaf 2007-2008 gynnydd ym mas y rhewlif, ac roedd disgwyl i hynny symud blaen y rhewlif ymlaen o gwmpas 2010.[4][5] Cafodd hyn ei gadarnhau yn hydref 2010, pan dangosodd mesuriadau bod y rhewlif wedi symud ymlaen 8 metr yn ystod y flwyddyn flaenorol.[6] Roedd hyn, fodd bynnag, mewn cymhariaeth a mesuriadau 2009, a welodd y gwrthgiliad mwyaf ers i'r mesuriadau cyntaf gael eu cymryd yn 1900. 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Jostedalsbreen Park". Directorate for Nature Management - National Parks. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-06. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "NVE - Briksdalsbreen". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-04. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. "Briksdalsbreen minkar mindre". Fjordingen (yn Norwegian). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-26. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. "Ein bre som veks" (yn Norwegian). NRK Sogn og Fjordane.CS1 maint: unrecognized language (link)
  5. Store norske leksikon. "Briksdalsbreen" (yn Norwegian). Cyrchwyd 2010-07-23.CS1 maint: unrecognized language (link)
  6. "fjordingen.no". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2018-07-22.