Cadwynfyr

Oddi ar Wicipedia
Y pedwar mesur ar hugain
Sion Cent
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Un o Bedwar Mesur ar Hugain Dafydd ab Edmwnd yw cadwynfyr.

Hanes[golygu | golygu cod]

Pan enillodd Dafydd ab Edmwnd gadair arian Eisteddfod Caerfyrddin 1451, aeth ati i ail-drefnu'r hen bedwar mesur ar hugain. Ceisiodd ddisodli dau fesur: yr englyn milwr a'r englyn penfyr gyda dau fesur newydd sef Gorchest y Beirdd a Chadwynfyr.

Nodweddion[golygu | golygu cod]

Wyth sillaf sydd mewn llinell o gadwynfyr. Mae gan bob llinell ddau gymal pedwar sillaf o hyd. Fel Gorchest y Beirdd, y mae'n fesur astrus dros ben.[1] Rhaid i bob cymal ffurfo cynghanedd groes yn unig yn ôl diffiniad Dafydd ab Edmwnd.

Dyma enghraifft o gadwynfyr gan y pencerdd Wiliam Llŷn:

Geiriau gwared, gwiriawg iraf,
Gwir ac araf, geirw gywirion.
Gwâr ac irion gorau gwiraf,
Gwawr a garaf, garu gwirion.

Dyma'r cadwynfyr ar ei ffurf fwyaf eithafol[1] gan fod cynghanedd groes gyflawn gyda'r un cytseiniaid ymhob cymal.

Mae gan y pennill bedair llinell wyth sillaf o hyd, a phob llinell yn rhannu yn ddau gymal gyda phedair sillaf ymhob rhan. Mae pob cymal yn ffurfio cynghanedd groes yn annibynnol, ond hefyd yn ffurfio cynghanedd groes gyda'r tri chymal arall o fewn pob cwpled. Yn yr enghraifft eithafol hon, mae pob cymal yn ffurfio cynghanedd groes â'i gilydd, ond hefyd ceir pedair cynghanedd groes wyth sillaf gyda'r un cytseiniaid. Caniateir ffurfio cynghanedd groes gyda chytseiniaid gwahanol yn y cwpled olaf.

Ceir odl gyrch rhwng diwedd pob llinell a phedwaredd sillaf y llinell ganlynol, megis iraf-araf a gywirion-irion. Mae'r llinell gyntaf yn odli â'r drydedd linell, ac mae'r ail linell yn odli â'r bedwaredd linell.

Dyma enghraifft sydd ychydig yn llai eithafol o waith Siôn Tudur:[1]

Gwae'r ais gario garw ias guriad,
Gweiriais gariad, gwiw rwysg araf;
Gloyw enw glanaf, g'lonnog luniad,
Gorau gwariad, gwawr a garaf.

Fel pennill Wiliam Llŷn, mae pob cymal yn ffurfio cynghanedd groes yn annibynnol, ond hefyd yn ffurfio cynghanedd groes fel llinellau wyth sillaf ymhob cwpled. Yn wahanol i'r enghraifft arall, ceir cytseiniaid gwahanol i'w hateb yn yr ail gwpled, sydd yn berffaith gywir, ond mae'r odlau cyrch yn dal i fod yn bresennol.

Dyma'r pennill eto, ond gyda'r odlau wedi'u duo:

Gwae'r ais gario garw ias guriad,
Gweiriais gariad, gwiw rwysg araf;
Gloyw enw glanaf, g'lonnog luniad,
Gorau gwariad, gwawr a garaf.

Mae'r mesur cyn astrused â Gorchest y Beirdd yn ôl Syr John Morris-Jones am y mesur a dywedodd yn ei lyfr Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925):

Ni chanwyd ond enghreifftiau ar y mesur... ac nid oes synnwyr yn yr un ohonynt.[2]

Eithriadol o brin yw penillion o gadwynfyr nad ydynt yn rhan o awdl enghreifftiol, sef awdl orchestol sy'n cynnwys pob un o'r pedwar mesur ar hugain.

Dyma farn Syr John Morris-Jones eto am ddau fesur Dafydd ab Edmwnd; Gorchest y Beirdd a Chadwynfyr:

Yn y ddau fesur hyn y mae caethiwed cytseinedd ac odl wedi ei gario i eithafion, ac yn esgor ar ffiloreg yn lle barddoniaeth.[3]

Aiff yn ei flaen i nodi mai problemau yn hytrach na mesurau ydynt, sef amod i dderbyn gradd pencerdd gan ddilyn Statud Gruffudd ap Cynan. Roedd nifer o'r beirdd yn erbyn disodli'r englyn milwr a'r englyn penfyr er mwyn gwneud lle i'r ddau fesur hyn[3], a phan ganodd Dafydd Nanmor awdl enghreifftiol, canodd ar yr hen fesurau.

Ni chenir nemor ddim ar y mesur hwn heddiw gan fod y rheolau yn tueddu i gyfyngu mynegiant y bardd.

Dywed y Prifardd Alan Llwyd fod y ddau fesur a neilltuwyd ar gyfer Gorchest y Beirdd a Chadwynfyr, sef yr englyn milwr a'r englyn penfyr, yn "llawer mwy defnyddiol".[1] Dywed hefyd mai "mesurau astrus, clogyrnaidd heb ddim diben iddynt yw'r mesurau hyn".

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • John Morris-Jones, Cerdd Dafod (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1925)
  • Alan Llwyd, Anghenion y Gynghanedd (Argraffiad diwygiedig, Cyhoeddiadau Barddas, 2007)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Alan Llwyd, Anghenion y Gynghanedd, Cyhoeddiadau Barddas, 2007
  2. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925
  3. 3.0 3.1 John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]