Canolfan Ofod Kennedy

Oddi ar Wicipedia
Canolfan Ofod Kennedy
Mathmaes rocedi, sefydliad ymchwil, NASA facility Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlJohn F. Kennedy Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Gorffennaf 1959 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolEastern Range Edit this on Wikidata
SirBrevard County Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Uwch y môr3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau28.58528°N 80.65083°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganNASA Edit this on Wikidata
Map

Safle NASA yn Ynys Merritt, Florida, Unol Daleithiau, yw Canolfan Ofod Kennedy (Saesneg: Kennedy Space Center). Mae wedi cael ei defnyddio ar gyfer lansio llongau gofod ers Rhagfyr 1968. Mae'r ganolfan yn denu twristiaid a cheir neuadd arddangosfa yno, gyda theithiau tywys hefyd.[1]

Map Ynys Merritt. Mae'r Ganolfan yn wyn, Maes Awyr yr Awyrlu yn wyrdd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Agorwyd y ganolfan ar 1 Gorffennaf 1962, a chafodd ei henw presennol ar ôl marwolaeth John F. Kennedy ym 1963.

Prosiect Mercher oedd yr un cyntaf, yn lansio unigolion i'r ofod. Wedyn daeth Prosiect Gemini; 10 ehediad, pob un efo 2 o bobl. Adeiladwyd Safle Lansiad 39 rhwng 1962 a 1965 ar gyfer rocedi Sadwrn. Gorffennodd Prosiect Gemini ym 1966.

Bu farw Gus Grissom, Ed White and Roger Chaffee ar 27 Ionawr 1967 yn ystod sesiwn profi ar ddechrau Prosiect Apolo. Arweinodd y prosiect at Apolo 11 ar 16 Gorffennaf 1969 pan aeth Neil Armstrong, Buzz Aldrin a Michael Collins i'r lleuad.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]