Chris Ruane

Oddi ar Wicipedia
Chris Ruane
AS
Llun seneddol swyddogol, Mehefin 2017
Aelod Seneddol
dros Ddyffryn Clwyd
Yn ei swydd
8 Mehefin 2017 – 6 Tachwedd 2019
Rhagflaenydd James Davies
Olynydd James Davies
Mwyafrif 2,379 (6.1%)
Yn ei swydd
1 Mai 1997 – 30 Mawrth 2015
Rhagflaenydd Sefydlwyd yr etholaeth
Olynydd James Davies
Manylion personol
Ganwyd (1958-07-18) 18 Gorffennaf 1958 (65 oed)
Rhyl, Sir Ddinbych
Cenedligrwydd Prydeinig
Plaid wleidyddol Llafur
Gŵr neu wraig Gill Roberts[1]

Gwleidydd Llafur yw Christopher Shaun Ruane (ganed 18 Gorffennaf 1958). Roedd yn Aelod Seneddol dros Ddyffryn Clwyd rhwng 1997 a 2015 ac eto rhwng 2015 a 2019. Bu'n Ysgrifennydd Seneddol Preifat (PPS) i Peter Hain o 2003 hyd at 2007, pan ymddiswyddodd mewn protest yn erbyn penderfyniad y llywodraeth i adnewyddu Trident.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Mynychodd Ysgol Gynradd Eglwys Gatholig Mair yn Rhyl. Fe aeth wedyn i Ysgol Uwchradd Edward Jones (dair mlynedd uwchlaw Carol Vorderman) ar Ffordd Cefndy yn Rhys ac wedyn Fflint. Aeth i Brifysgol Cymru Aberystwyth, lle graddiodd gyda BSc mewn economeg yn 1979. Yna aeth i Brifysgol Lerpwl lle cafodd gymhwyster athro yn 1980. Roedd yn gynghorydd tref o 1988 ac yn Gadeirydd NUT ar gyfer Gorllewin Clwyd.

Roedd yn athro ysgol gynradd o 1982-97 ac yn ddirprwy bennaeth o 1991 i 1997.

Gyrfa etholiadol[golygu | golygu cod]

Ymgeisiodd am sedd Gogledd Orllewin Clwyd yn 1992, etholaeth a gafodd ei chreu yn 1983 ac a ddaeth i ben yn 1997.

Daeth yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Peter Hain o 2003 hyd at ei ymddiswyddiad ym Mawrth 2007 pan y protestiodd ynglŷn â phenderfyniad ail wneud Trident.

Yn 2003, pleidleisiodd Ruane o blaid Rhyfel Irac.

Collodd ei sedd i James Davies yn Etholiad Cyffredinol 2015. Er hyn, fe safodd i gael ei ail-ethol ar gyfer etholaeth Ddyffryn Clwyd yn etholiad 2017 ac ail-ennill y sedd.[2]

Roedd Ruane yn wrthwynebus i Brexit cyn y bleidlais.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Ddyffryn Clwyd
19972015
Olynydd:
James Davies
Rhagflaenydd:
James Davies
Aelod Seneddol dros Ddyffryn Clwyd
20172019
Olynydd:
James Davies

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Commons, House of. "House of Commons - The Register of Members' Financial Interests - Part 2: Part 2".
  2. "General Election: Ex-Labour Clwyd MPs bid for Commons return".