Neidio i'r cynnwys

Colemore and Priors Dean

Oddi ar Wicipedia
Colemore and Priors Dean
Mathplwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Dwyrain Hampshire
Daearyddiaeth
SirHampshire
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.066°N 0.971°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04004498 Edit this on Wikidata
Map

Plwyf sifil yn Hampshire, De-ddwyrain Lloegr, ydy Colemore and Priors Dean. Mae'n cynnwys yr aneddiadau Colemore a Priors Dean. Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Dwyrain Hampshire tua 3 milltir i'r gorllewin o Liss a thua 4 milltir i'r gogledd-orllewin o Petersfield, Hampshire, Lloegr.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddo boblogaeth o 135.[1]

Cyfunwyd pentrefan Colemore â phentrefan cyfagos Priors Dean yn 1932 i ffurfio un plwyf.[2]

Yr eglwys leol[golygu | golygu cod]

Mae rhannau cynharaf o hen eglwys blwyf Eglwys Sant Pedr Vincula (St Peter in Chains) yn dyddio i'r 11g ac yn adeilad rhestredig Gradd II*. Mae bellach wedi ei ddadsancteiddio ac yng ngofal Ymddiriedolaeth Cadwraeth yr Eglwysi.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. City Population; adalwyd 17 Gorffennaf 2019
  2. colemore-priorsdean.org; gwefan swyddogol y plwyf; adalwyd 17 Gorffennaf 2019.
Eginyn erthygl sydd uchod am Hampshire. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.