Corseg

Oddi ar Wicipedia
Corseg
Enghraifft o'r canlynoliaith, iaith fyw Edit this on Wikidata
MathItalo-Romance Edit this on Wikidata
Rhan olangues régionales de France Edit this on Wikidata
Enw brodorolcorsu Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 151,000 (2013)[1]
  • cod ISO 639-1co Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2cos Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3cos Edit this on Wikidata
    GwladwriaethFfrainc, yr Eidal Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuyr wyddor Ladin Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

    Iaith yn perthyn i deulu yr Ieithoedd Romáwns a siardeir ar ynys Corsica a gogledd ynys Sardinia yw Corseg (Corsu neu Lingua Corsa).

    Am gyfnod hir, Corseg oedd unig iaith ynys Corsica, cyn iddi ddod yn rhan o Ffrainc yn 1768. Yn 1990, toedd tua 50% o drigolion yr ynys, tua 127,000, yn medru rhywfaint o'r iaith, a tua 10% yn ei defnyddio fel iaith gyntaf. Mae hyn yn cynharu a thua 70% oedd yn medru rhywfaint o'r iaith yn 1980.

    Dysgir rhywfaint o'r iaith yn yr ysgolion bellach; mae'n bwnc dewisol yn yr ysgolion uwchradd.

    Tafodieithoedd Corseg

    Statws[golygu | golygu cod]

    Mae gan y Gorseg statws iaith ranbarthol yn Ffrainc, mewn rhestr a gyhoeddwyd gan lywodraeth Ffrainc. Mae'r iaith yn ymddangos ar arwyddion ffyrdd yng Nghorsica. Er hynny, nid yw'n iaith swyddogol yn Ffrainc, gan mai'r Ffrangeg yn unig sydd â'r statws hwnnw (ers 1992). Ar 17 Mai 2013, pleidleisiodd Cynulliad Corsica o blaid cynnig oedd yn gwneud y Gorseg yn iaith cyd-swyddogol, gyda'r Ffrangeg [2]. Fodd bynnag, ystyrir y cynnig yn un anghyfansoddiadol.

    Arwydd dwyieithog gyda'r fersiwn Ffrangeg wedi ei beintio

    Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

    Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.