Crewe

Oddi ar Wicipedia
Crewe
Mathrailway town, tref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDwyrain Swydd Gaer
Poblogaeth73,241 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iMâcon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaer
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaWeston, Crewe Green, Haslington, Warmingham, Moston, Basford, Wistaston, Woolstanwood, Leighton Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.099°N 2.44°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04012281 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ705557 Edit this on Wikidata
Cod postCW1 Edit this on Wikidata
Map

Tref, plwyf sifil a chyffordd rheilffordd bwysig yn sir seremonïol Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Crewe[1] (Cymraeg: Cryw). Mae cryw yn enw ar gored neu argae bychan ar draws afon a godwyd i ddal pysgod.[2]

Tref ydyw a ffurfiwyd yn bennaf oherwydd y gweithfeydd mawr ar gyfer adeiladu a thrwsio a godwyd yno yn ystod canrif gyntaf y rheilffyrdd. Fel cyffordd bwysig (efallai y man cyfnewid trenau a gaiff y mwyaf o ddefnydd trwy Brydain), daeth Gorsaf reilffordd Cryw yn gyfarwydd i genedlaethau o deithwyr o Ogledd Cymru.

Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Dwyrain Swydd Gaer. Crewe yw terminws/man gychwyn Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru sy'n ei chysylltu â Chaergybi.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 52,673.[3]

Mae Caerdydd 186.4 km i ffwrdd o Crewe ac mae Llundain yn 237 km. Y ddinas agosaf ydy Stoke-on-Trent sy'n 18.7 km i ffwrdd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Un o drenau Trafnidiaeth Cymru - Class 158 DMU 158818 - yng ngorsaf Crewe.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 7 Medi 2020
  2.  cryw. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 7 Mai 2024.
  3. City Population; adalwyd 7 Medi 2020
Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaer. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato