Neidio i'r cynnwys

Eglwys Sant Beuno, Penmorfa

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Beuno Sant, Penmorfa
Eglwys Sant Beuno, o'r gogledd
Matheglwys Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlBeuno Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 14 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadPenmorfa, Dolbenmaen Edit this on Wikidata
SirDolbenmaen Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr28.6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9402°N 4.17211°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH540403 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iBeuno Edit this on Wikidata
Manylion

Saif Eglwys Sant Beuno ger pentrefan Penmorfa, tua dwy filltir i'r gogledd-orllewin o Borthmadog, Gwynedd, Cymru; ac mae bellach yn nwylo Friends of Friendless Churches ("Gyfeillion Eglwysi Di-gyfaill").[1] Fe'i cofrestrwyd gan Cadw yn adeilad cofrestredig Gradd II*.[2]

Mae'r eglwys yn nodedig am nifer o resymau pensaernïol, ond hefyd am y beddau sydd yn ei mynwent, ac yn eu plith y mae cist William Maurice a fu farw yn 1622, sydd wedi'i chofrestru'n Gradd II.[3] Ceir porth arbennig ar ochr ddwyreiniol y fynwent, a godwyd yn 1698 a'i hatgyweirio yn y 19g, ac a wnaed o garreg, gyda tho llechen ac mae ynddo ddwy fainc bren y naill ochr a'r llall, sydd hefyd yn Radd II.[4]

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r safle'n hynafol iawn ac yn dyddio'n ôl i oes Sant Beuno, pan oedd yn cael ei defnyddio fel cell meudwy tua diwedd y 6g.[5] Mae corff yr eglwys yn dyddio'n ôl i'r 14g a'r gangell o'r 15g. Ychwanegwyd y festri bychan a'r porth deheuol yn y 18g. Yn ystod y 19g atgyweiriwyd yr eglwys deirgwaith: yn 1851–53, 1880 a 1889,[2] a'r pensaer a oedd yn gyfrifol am y gwaith yn 1880 a 1889 oedd John Douglas o Gaer.[6] Wedi digysegru'r eglwys yn 1999, rhoddwyd lês 999 mlynedd ar yr eglwys i Friends of Friendless Churches, sy'n gyfrifol am y gwaith atgyweirio o ddydd i ddydd. Maent hefyd wedi comisiynu cabined i ddal y casgliad o Feiblau a gedwir yno.[5]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Penmorfa"; Gwefan Friends of Friendless Churches; adalwyd 30 Mehefin 2019
  2. 2.0 2.1 Church of St Beuno, Penmorfa, Historic Wales (Cadw), http://jura.rcahms.gov.uk/cadw/cadw_eng.php?id=4623, adalwyd 29 Gorffennaf 2010
  3. Chest Tomb in churchyard of the Church of St Beuno, Historic Wales (Cadw), http://jura.rcahms.gov.uk/cadw/cadw_eng.php?id=21532, adalwyd 29 Gorffennaf 2010
  4. Lychgate at the Church of St Beuno, Historic Wales (Cadw), http://jura.rcahms.gov.uk/cadw/cadw_eng.php?id=4285, adalwyd 29 Gorffennaf 2010
  5. 5.0 5.1 Saunders, Matthew (2010), Saving Churches, Llundain: Frances Lincoln, pp. 89–91, 122, ISBN 978-0-7112-3154-2
  6. Hubbard, Edward (1991), The Work of John Douglas, Llundain: The Victorian Society, p. 271, ISBN 0-901657-16-6

Oriel[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]