Emma Bolam

Oddi ar Wicipedia
Emma Bolam
Ganwyd30 Rhagfyr 1970 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethymchwilydd, imiwnolegydd, vaccinologist Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amCreu Brechlyn COVID-19
Gwefanhttps://www.research.ox.ac.uk/Researchers/emma-bolam Edit this on Wikidata

Mae Emma Bolam (gannwyd 30 Rhagfyr 1970) yn wyddonydd a Phennaeth Cynhyrchu yn Sefydliad Jenner (sefydliad sy'n ymchwilio brechlynnau newydd). Tyfwyd i fyny ym Mhen-y-bont, Sir Gaerfyrddin.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Cafodd ei fagwriaeth ym Mhen-y-bont, Sir Gaerfyrddin ei mam a'i thad yn dod o Lundain. Mae ganddi un chwaer sef Lucie Mcknight Hardy a ddaeth yn awdur.[2]

Aeth Bolam i Ysgol Gynradd Hafodwenog yn Nhrelech[3] ac Ysgol Bro Myrddin nes 1989[1], mae'n rhugl yn y Gymraeg.[4]

Astudiodd ym Mrifysgol Brookes Rhydychen gan cael gradd mewn Bioleg Amgylcheddol.

Swyddi[golygu | golygu cod]

Mae Bolam wedi bod yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Rhydychen am 25 o flynyddoedd. Fe wnaeth dechrau fel technegydd ymchwil yn y Ganolfan Gwrthgyrff Therapiwtig, gan chware ei rhan i ddatblygu cyffur a ddefnyddir i drin sglerosis gwasgaredig a lewcemia lymffocytig cronig.[5]

Ar ôl i'r ganolfan Bio-weithgynhyrchu Clinigol (CBF) gael ei sefydlu yn y Sefydliad Jenner (sefydliad sy'n ymchwilio brechlynnau newydd) yn Rhydychen fe wnaeth Bolam weithio ar y brechlynnau niferus a ddefnyddir bellach mewn treialon clinigol.[5]

Yn Ebrill 2019 fe ddaeth Bolam yn Bennaeth Cynhyrchu yn Sefydliad Jenner.[6] Yn y swydd yma mae Bolam yn rheoli tîm o wyddonwyr ymchwil a chynhyrchu gan sicrhau bod nhw'n dilyn amserlen a bod gwaith yn dod ymlaen ar darged.[1]

Cyn ddatblygu'r brechlyn COVID, roedd Bolam yn weithio ar brechlyn Ebola.[5]

Roedd Bolam yn rhan o'r tîm wnaeth creu'r brechlyn COVID-19 Rhydychen. Cafodd ei cael gwybod Rhwng mis Chwefror i fis Ebrill roedd Bolam yn gweithio'n ddi-stop i geisio cael brechlyn yn barod ar gyfer treialon clinigol, gan gael un yn barod ar 2 Ebrill 2020. Cafodd y brechlyn ei brechu i'r gwirfoddolwr cyntaf ar 23 Ebrill 2020. Roedd y brechlyn yn llwyddiant a drwy weithio gyda'r cwmni AstraZeneca fe wnaeth derbyn cymeradwyaeth gan y MHRA (awdurdod rheoli meddygaeth DU) a'r 30 Rhagfyr 2020.[7] Dyma oedd diwrnod pen-blwydd Bolam yn 50 ac roedd yn teimlo'n 'anhygoel'.[4] Mae'n gweithio ar wella'r brechlyn wrth i amrywiolion newydd COVID ddatblygu.[4]

Roedd Emma Bolam ar raglen Heno ar 11 Chwefror 2021 i ddathlu Diwrnod Menywod mewn Gwyddoniaeth. Roedd ffrind ysgol a phrifysgol Bolam, Lynne Edwards, yn rhan o'r rhaglen hefyd gan fod hi'n gydlynydd dosbarthu brechlynnau yn Hywel Dda. Dywedodd Bolam bod hi'n "gobeithio bydd mwy o ferched yn dechrau gyrfa mewn gwyddoniaeth" oherwydd bod nifer o fenywod wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu'r brechlyn yma fel hi a Sarah Gilbert.[4]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Mae Bolam wedi ymgartrefi yn Rhydychen ers iddi graddio ym Mrifysgol Brookes. Mae ganddi un Mab, Alex.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Youle, Richard (2021-01-25). "Interview with Welsh scientist running Oxford vaccine facility". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-27.
  2. "Lucie McKnight Hardy". Watson Little (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-01.
  3. 3.0 3.1 "Y Gymraes sy' wedi newid taith Covid". BBC Cymru Fyw. 2021-03-08. Cyrchwyd 2021-03-09.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 (yn cy) Diwrnod Menywod mewn Gwyddoniaeth, https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/diwrnod-menywod-mewn-gwyddoniaeth/260769395558754/, adalwyd 2021-03-01
  5. 5.0 5.1 5.2 "Emma Bolam". www.research.ox.ac.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-01.
  6. "Emma Bolam". Linkedin.
  7. "Cymeradwyo brechlyn AstraZeneca". Golwg360. 2020-12-30. Cyrchwyd 2021-03-01.