Neidio i'r cynnwys

Hanes tiriogaethol Cymru

Oddi ar Wicipedia

Newidiadau mewn tiriogaeth a gororau Cymru trwy ei hanes yw hanes tiriogaethol Cymru. Mae Cymru yn ffinio â'r môr i'r gogledd, i'r gorllewin, ac i'r de, ac mae'n ffinio â Lloegr i'r dwyrain. Mae hanes tiriogaethol Cymru felly yn ymwneud â newidiadau ar ei oror â'i hunig gymydog ar dir, Lloegr.

Yn hanesyddol, roedd teyrnasoedd Cymru yn cynnwys tir sydd bellach yn rhan o Loegr, yn enwedig rhannau o Orllewin Canolbarth Lloegr.

Rhwng y 16eg a'r 20goedd roedd statws Sir Fynwy yn ne-ddwyrain Cymru yn ddadleuol. Cafodd ei hystyried yn rhan o Loegr gan rai, neu'n ardal trawsgenedlaethol. Cadarnhawyd Sir Fynwy yn rhan o diriogaeth Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, a daeth yn rhan o sir Gwent ym 1974. Ffurfiwyd sir newydd Sir Fynwy ym 1996.

Bellach, goror Cymru a Lloegr sydd yn dynodi ffiniau tiriogaethol swyddogol Cymru.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.