Hugh Griffith

Oddi ar Wicipedia
Hugh Griffith
Ganwyd30 Mai 1912 Edit this on Wikidata
Marian-glas Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mai 1980 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau Edit this on Wikidata

Actor o Gymro rhugl ei Gymraeg oedd Hugh Emrys Griffith (Cymraeg: Huw Emrys Gruffudd; 30 Mai, 191214 Mai, 1980). Cafodd ei eni ym Marianglas, Sir Fôn, yn fab i Mary a William Griffith a chafodd ei addysg yn Ysgol Sirol Llangefni, ond fe fethodd arholiadau i fynd i'r brifysgol. Cafodd ei annog i ddilyn gyrfa mewn bancio ac fe symudodd i Lundain i fod yn agosach at gyfleon actio. Fel roedd yn ennill mynediad i'r Academi Celfyddydau Drama Brenhinol (RADA) fe gychwynodd yr Ail Rhyfel Byd, a gwasanaethodd ym Myddin Lloegr am chwe mlynedd gyda'r Ffiwsilwyr Cymreig yn India, ac yn ymgyrch Burma. Ailgydiodd yn ei yrfa actio yn 1946.

Derbyniwyd ef i'r orsedd gan yr Archdderwydd William Morris yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangefni 1957. Derbyniodd radd anrhydeddus gan Brifysgol Cymru, Bangor yn 1980, a'r unflwyddyn, bu farw o drawiad ar y galon yn Llundain.

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Teledu[golygu | golygu cod]


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.