Josiah Thomas Jones

Oddi ar Wicipedia
Josiah Thomas Jones
Ganwyd23 Medi 1799 Edit this on Wikidata
Clydau Edit this on Wikidata
Bu farw27 Ionawr 1873 Edit this on Wikidata
Aberdâr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Academi Newport Pagnell Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyhoeddwr, gweinidog yr Efengyl, llyfrwerthwr, rhwymwr llyfrau, argraffydd Edit this on Wikidata
PriodRebecca Lines Edit this on Wikidata
PerthnasauDavid Griffiths Edit this on Wikidata

Gweinidog Ymneilltuol, awdur a chyhoeddwr Radicalaidd oedd Josiah Thomas Jones (23 Medi 179926 Ionawr 1873).[1] Roedd yn werinwr i'r carn a gredai mewn cyflwyno gwybodaeth i werin ei wlad. Ei gyhoeddiad mwayf adnabyddus heddiw yw Enwogion Cymru, geiriadur bywgraffyddol a gyhoeddwyd mewn dwy gyfrol yn 1867.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Wynebddalen cyfrol I Enwogion Cymru gan Josiah Thomas Jones.

Brodor o blwyf Clydai, Sir Benfro oedd Josiah Jones. Yn 14 oed aeth oddi cartref a bu'n gweithio mewn siop yn Arberth. Dechreuodd bregethu ac yn 1828 cafodd ei wneud yn weinidog Pendref, Caernarfon. Bu yn y dref honno hyd 1836, lle dechreuodd gyhoeddi ac argraffu llyfrau Cymraeg. Yno bu ganddo ran yn Y Seren Ogleddol, dan olygyddiaeth Caledfryn. Symudodd i dref Merthyr Tudful a chychwyn newyddiadur Saesneg, sef y Merthyr and Cardiff Chronicle ond bu rhaid iddo adael oherwydd erledigaeth gan y meistri haearn a ofnai farn radicalaidd Josiah Jones. Dychwelodd i'r weinidogaeth ac ymgartrefu yng Nghaerfyrddin yn 1838. Sefydlodd wasg yno. Yn 1852 aeth i Aberdâr lle treuliodd weddill ei oes. Bu farw yno ganol nos 26/27 Ionawr, 1873.[1]

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

Newyddiaduron
  • Merthyr and Cardiff Chronicle
  • Yr Odydd Cymraeg
  • Y Gwron Cymreig
  • Y Gweithiwr
  • The Aberdare Times
Llyfrau
  • Daearyddiaeth Ysgrythyrol
  • Geiriadur Bywgraffyddol Enwogion Cymru (Aberdâr, 2 gyfrol, 1867)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]