Lauren Price

Oddi ar Wicipedia
Lauren Price
Blank
Ganwyd25 Mehefin 1994 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Gyfun Heol Ddu Edit this on Wikidata
Galwedigaethpaffiwr, kickboxer, pêl-droediwr Edit this on Wikidata
Taldra167 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau70 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru, C.P.D. Merched Dinas Caerdydd Edit this on Wikidata
Safleamddiffynnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Mae Lauren Louise Price (ganwyd 25 Mehefin 1994) yn baffiwr/bocsiwr proffesiynol o Gymru.

Cyn hynny, roedd Lauren yn focsiwr amatur, ac yn gyn-gic-focsiwr a phêl-droediwr.[1]

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Cafodd Price ei geni yng Nghasnewydd, ond cafodd ei magu yng Nghaerffili, gan ei thaid a’i nain.[2] Cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Heolddu, Bargod.[3] Dangosodd ddiddordeb mawr mewn sawl camp, gan gymryd pêl-droed, pêl-rwyd a bocsio cic yn ddeg oed, yr olaf ar ôl anogaeth gan ei thad-cu.[4]

Gyrfa chwaraeon[golygu | golygu cod]

Fel cic-focsiwr, enillodd Price fedal arian mewn digwyddiad ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Athen yn 2007 yn 13 oed, gan gystadlu yn erbyn gwrthwynebwyr ddwywaith ei hoedran,[3] a daeth y cystadleuydd ieuengaf erioed ym Mhencampwriaethau Prydain.[5] Aeth ymlaen i fod yn bencampwr pedair gwaith y byd ac yn bencampwr Ewropeaidd chwe-amser yn y gamp ac yn ddiweddarach cystadlodd yn Taekwondo.[2]

Ar ôl bod yn gapten ar Gymru ar lefel dan-19, ennillodd ddau gap dros dîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru yn 2012-2013 tra'n chwarae i dîm pêl-droed Dinas Caerdydd. Fe wnaeth hi hefyd chwarae dros dîm pel-rwyd Cymru.[6]

Paffio amatur[golygu | golygu cod]

Cystadlodd dros Gymru yn y dosbarth pwysau canol y menywod yng Ngemau'r Gymanwlad 2014, lle enillodd fedal efydd. Hi oedd y fenyw gyntaf o Gymru i ennill medal focsio Gemau'r Gymanwlad. Ragorodd hi ar y cyflawniad hwn trwy ennill aur yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 yn yr Arfordir Aur, Awstralia.[7] Ar ôl curo’r bocsiwr o’r Iseldiroedd Nouchka Fontijn yn y rownd gynderfynol pwysau canol aeth ymlaen i ennill y fedal aur yn erbyn Li Qian o China yng Ngemau Olympaidd 2021 yn Tokyo.[8][7]

Paffio proffesiynol[golygu | golygu cod]

Ennillodd Lauren ei gornest broffesiynol gyntaf yn erbyn Valgerdur Gudsten-sdottir o Wlad yr Iâ ar 11 Mehefin 2022.[9]

Daeth yn bencampwraig byd ar 11 Mai 2024 wrth guro Jessica McCaskill yng Nghaerdydd. Enillodd Lauren deitlau byd pwysau welter cylchgrawn Ring, WBA ac IBO. Cerddodd i'r cylch bocsio i gân Yma o Hyd gan Dafydd Iwan.[10] Ar ôl ennill ei gornest, dywedodd, "Dwi ond yn mynd i wella. 'Da chi'n gweld beth mae Katie Taylor wedi gwneud dros Iwerddon; dwi isio gwneud yr un peth dros Gymru".[11]

Cofnod paffio proffesiynol[golygu | golygu cod]

Rhif Canlyniad Record Gwrthwynebydd Math Rownd, amser Dyddiad Lleoliad Nodiadau
7 Ennill 7-0 Jessica McCaskill Pwyntiau 9 (10) 11 Mai 2024 Utilita Arena, Caerdydd, Cymru Ennill Pencampwriaeth Byd Pwysau Welter WBA, IBO a Cylchgrawn Ring
6 Ennill 6–0 Silvia Bortot Pwyntiau 8 10 Rhagfyr 2023 Bournemouth International Centre, Bournemouth, Lloegr
5 Ennill 5–0 Lolita Muzeya Penderfyniad Technegol 6 (8), 0:24 2 Medi 2023 Manchester Arena, Manceinion, Lloegr Torriad i ben Muzeya ar ol taro pen yn y 5ed rownd
4 Ennill 4–0 Kirstie Bavington Penderfyniad 10 6 Mai 2023 Resorts World Arena, Birmingham, Lloegr Ennillodd Bencampwriaeth Pwyasu Welter Prydain (Tro cyntaf erioed i'r wobr gael ei chynnig)
3 Ennill 3–0 Naomi Mannes Penderfyniad Unfryd 8 11 Mawrth 2023 Zénith Paris, Paris, Ffrainc
2 Ennill 2–0 Timea Belik Taro Allan 4 (6), 1:18 15 Hydref 2022 O2 Arena, Llundain, Lloegr
1 Ennill 1–0 Valgerdur Gudstensdottir Pwyntiau 6 11 Mehefin 2022 SSE Arena Wembley, Llundain, Lloegr

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Penman, Andrew (23 November 2018). "Gwent's Lauren Price wins world boxing bronze in India". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2019.
  2. 2.0 2.1 Webb, Alex (28 Gorffennaf 2014). "Glasgow 2014: Footballer Lauren Price swaps boots for boxing". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Hydref 2014.
  3. 3.0 3.1 "Kickboxing: Lauren is a hit with teachers". WalesOnline (yn Saesneg). Media Wales. 28 Mehefin 2007. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2019.
  4. White, Jim (15 Tachwedd 2018). "How Olympic hero Nicola Adams inspired next generation of British women boxers – 'She is the person who showed us all it's possible'". The Telegraph (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2019.
  5. "Lauren's a Sporting Role Model". WalesOnline (yn Saesneg). Media Wales. 22 Tachwedd 2007. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2019.
  6. "Lauren Price a'i thaith i frig y byd bocsio". BBC Cymru Fyw. 2024-05-10. Cyrchwyd 2024-05-11.
  7. 7.0 7.1 "Live Tokyo 2020, boxing live: GB's Lauren Price wins gold medal fight against Li Qian". Telegraph. 8 Awst 2021.
  8. "Lauren Price yn ennill medal aur i Gymru am focsio". Golwg360. 2021-08-08. Cyrchwyd 2024-05-11.
  9. "Lauren Price yn ennill ei gornest focsio broffesiynol gyntaf". newyddion.s4c.cymru. 2024-05-11. Cyrchwyd 2024-05-11.
  10. Owens, David (2024-05-11). "Lauren Price crowned welterweight world champion in Cardiff". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-11.
  11. "'Just the start': Price bests McCaskill for title". ESPN.com (yn Saesneg). 2024-05-11. Cyrchwyd 2024-05-12.