Neidio i'r cynnwys

Llyn Glasfryn

Oddi ar Wicipedia
Llyn Glasfryn
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.953189°N 4.37943°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Llyn yn ardal Eifionydd, Gwynedd yw Llyn Glasfryn. Saif ym mhlwyf Llangybi. Mae'r llyn a'r tir o'i gwmpas wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 10 Tachwedd 1989 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae arwynebedd y safle yn 7.63 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Chwedl werin[golygu | golygu cod]

Yn ôl y chwedl werin, ffurfwyd Llyn Glasfryn pan orlifodd ffynnon sanctaidd gerllaw, a adnabyddir heddiw fel Ffynnon Grasi, oherwydd esgeulustod morwyn o'r enw Grasi a anghofiodd roi'r cauad carreg yn ôl ar y ffynnon ar ôl tynnu dŵr ohoni. Trowyd Grasi yn garreg am ei "bechod" ac enwir Ffynnon Grasi - a leolir ar lan ddwyreiniol y llyn - a maen hir gerllaw ar ei hôl.[2]

Math o safle[golygu | golygu cod]

Dynodwyd y safle ar sail ei fywyd gwyllt, er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Mae safleoedd bywyd gwyllt fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]