Llyn Tecwyn Uchaf

Oddi ar Wicipedia
Llyn Tecwyn Uchaf
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1896 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalsarnau Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr509 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.924°N 4.023569°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6410038100 Edit this on Wikidata
Rheolir ganDŵr Cymru Edit this on Wikidata
Map

Llyn ar lethrau'r Rhinogydd yng Ngwynedd yw Llyn Tecwyn Uchaf. Saif i'r dwyrain o dref Penrhyndeudraeth ym mhlwyf Llandecwyn, 509 troedfedd uwch lefel y môr.

Adeiladwyd argae yma yn 1896 ac un arall yn 1920 i godi lefel y dŵr; mae'r llyn yn cyflenwi dŵr i ardal Penrhyndeudraeth, Porthmadog a Maentwrog. Mae'n lyn gweddol fawr, gydag arwynebedd o 31 acer. Mae'r nant sy'n llifo o'r llyn yn ymuno ag Afon Dwyryd. Ceir pysgota am frithyll yn y llyn.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)