Neidio i'r cynnwys

Marlborough, Seland Newydd

Oddi ar Wicipedia
Marlborough
Mathrhanbarthau Seland Newydd, district of New Zealand Edit this on Wikidata
PrifddinasBlenheim Edit this on Wikidata
Poblogaeth47,340 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1876 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+12:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iTendo Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSeland Newydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Seland Newydd Seland Newydd
Arwynebedd12,484.59 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaWellington Region, Nelson Region, Tasman District, Canterbury Region, Kaikōura District, Hurunui District Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.8833°S 173.6667°E Edit this on Wikidata
NZ-MBH Edit this on Wikidata
Map
Trên yn gadael Picton
Blenheim
Fferi yn cyrraedd Picton
Defaid yng nghefn gwlad Marlborough
Mynyddoedd Kaikoura

Mae Marlborough yn dalaith o Seland Newydd yng ngogledd ddwyrain Ynys y De. Tref fwyaf Marlborough yw Waiharakeke (Saesneg: Blenheim) a oedd â phoblogaeth o 24,183 yn 2013.[1] Picton oedd brifddinas y dalaith hyd at 1865, pan gymerodd Waiharakeke drosodd. Cysylltwyd y ddwy dref gan reilffordd ym 1875. Dechreuodd gwasanaeth fferi rhwng Picton a Wellington ym 1962.[2]

Roedd gan Kaikoura boblogaeth o 1,971 yn 2013 ac mae un ymhob pump yn Maori. Agorwyd y rheilffordd rhwng Picton a Christchurch yn Kaikoura ar 15 Rhagfyr 1945. Mae ceunant tanforol Kaikoura yn denu morfilod at yr arfordir, sydd yn denu twristiaid i'r dref. [3]

Mae Marlborough'n enwog am ei win gwyn, yn benodol gwin Sauvignon Blanc.[4]

Hanes[golygu | golygu cod]

Ymwelodd James Cook â Meretoto (Saesneg: Ship Cove) ar 15 Ionawr 1770.[5]

Daeganfuwyd aur yn Wakamarina yn Ebrill 1864, ac yn ymyl Waikakaho yn 1888. Datblygwyd Cullensville yn sgil yr ail ddarganfyddiad.[6]

Magwyd Ernest Rutherford yn Havelock cyn iddo symud i Loegr [7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Te Ara
  2. Gwefan Te Ara
  3. Gwefan Te Ara
  4. Gwefan newzealand.com
  5. "Gwefan marlboroughnz.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-31. Cyrchwyd 2016-08-20.
  6. "Gwefan marlboroughnz.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-31. Cyrchwyd 2016-08-20.
  7. "Gwefan marlboroughnz.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-31. Cyrchwyd 2016-08-20.
Eginyn erthygl sydd uchod am Seland Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.