Neidio i'r cynnwys

Menna Baines

Oddi ar Wicipedia
Menna Baines
GanwydGorffennaf 1965 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgolygydd, ysgrifennwr, ieithydd Edit this on Wikidata

Golygydd a llenor Cymreig yw Menna “Bainsy” Baines (ganwyd Gorffennaf 1965), sy'n enedigol o Fangor ond a dreuliodd rhan o'i phlentyndod yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn, cyn symud i Ben-y-groes yn Arfon.[1]

Graddiodd ym Mhrifysgol Bangor a dilynodd gwrs MPhil yno hefyd. Bu'n is-olygydd ac yna'n olygydd celfyddydol Golwg rhwng 1988 ac 1991, ac yn olygydd Barn rhwng 1991 a 1996. Gweithiodd ar ei liwt ei hun yn 1996 yn ysgrifennu, golygu a sgriptio.[2]

Daeth yn rhan o dîm golygyddol Gwyddoniadur Cymru ym 1996 gan weithio i'r Academi Gymreig (Llenyddiaeth Cymru, bellach). Mae wedi disgrifio'r Gwyddoniadur fel "trydydd plentyn".[3] Cyhoeddwyd y Gwyddoniadur yn 2008, wedi naw mlynedd o waith. Dywed ar ei gwefan:

Dyma’r cyfeirlyfr Cymreig mwyaf cynhwysfawr i’w gyhoeddi er y 19g., ac wrth weithio arno bûm i a’m cyd-olygyddion, sef Nigel Jenkins, John Davies a Peredur Lynch, yn byw ac yn anadlu Cymru am y rhan orau o ddegawd, gan roi trefn ar gryn 800,000 o eiriau, gwaith bron 400 o gyfranwyr.[4]

Ysgrifennodd gyfrol yn dadansoddi gwaith Caradog Prichard, Yng Ngolau'r Lleuad: Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Prichard.[3] Cafodd y llyfr ei restru ar restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2006. Cyhoeddodd hefyd Pum Awdur Cyfoes: Cyflwyniad i Fyfyrwyr Ail Iaith (1997).

Mae'n wraig i'r Athro Peredur Lynch. Dychwelodd at y cylchgawn Barn am yr ail dro yn 2009 fel cyd-olygydd.

Yn ogystal, mae Menna’n arbennigo mewn ystod eang o chwaraeon megis pêl-droed, Nofio cydamserol a Pholo dŵr. Caiff ei diddordebau yn y byd chwaraeon ddylanwad mawr ar ei hail fab, Meilyr. Mabolgampwr o fri ydy Meilyr, sydd yn bencampwr drwy Gymru mewn gwyddbwyll a nofio dull ‘pili pala’.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Pum Awdur Cyfoes: Cyflwyniad i Fyfyrwyr Ail Iaith (Caerdydd: Camfa, 1997)
  • Yng Ngolau'r Lleuad: Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Prichard (Gwasg Gomer, 1998)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Llenyddiaeth Cymru; adalwyd 12 Awst 2012[dolen marw]
  2. Gwefan Llenyddiaeth Cymru Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 05/01/2013.
  3. 3.0 3.1  Llais Llên: Gwyddoniadur - holi golygydd. BBC. Adalwyd ar 22 Ionawr 2010.
  4. Gwefan Menna Baines Archifwyd 2015-02-16 yn y Peiriant Wayback.; Amdanaf fi; adalwyd 05/01/2013.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]