Neidio i'r cynnwys

O. P. Huws

Oddi ar Wicipedia
O. P. Huws
GanwydOwen Pennant Hughes Edit this on Wikidata
Mawrth 1943 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethperson busnes, cynghorydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PlantBleddyn Owen Huws Edit this on Wikidata

Dyn busnes a chynghorydd sîr yw Owen Pennant Huws (ganwyd 25 Mawrth 1943)[1] neu O. P. Huws fel y'i adnabyddir.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Yn enedigol o Ddyffryn Ceiriog daeth O.P. i fyw i Ddyffryn Nantlle yn ŵr ifanc. Dechreuodd ymgyrchu dros Blaid Cymru ar ôl cael ei ysbrydoli gan un o gynghorwyr y Dyffryn, Wmffra Roberts.

Un o'i fusnesau cyntaf oedd magu cyw ieir a thyrcwns yn eu miloedd ar ei fferm yn Nebo, Gwynedd. Sefydlodd adran fideos Cwmni Recordiau Sain yn y 1990au. Roedd yn un o sefydlwyr Antur Nanlle yn 1992 ac ymddeolodd o'r bwrdd yn 2016. Roedd yn un o gyfarwyddwyr Bragdy Lleu ym Mhenygroes rhwng 2013 a 2017.[1]

Roedd yn gynghorydd Plaid Cymru dros Llanllyfni a Nantlle ar Gyngor Sir Gwynedd hyd at 2012.[2] Yn Hydref 2023, derbyniodd Wobr Cyfraniad Arbennig yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth. Cyflwynwyd y wobr gan ei gyfaill Alun Ffred, ac fe'i derbyniwyd gan ei fab, Bleddyn Owen Huws.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  Ty'r Cwmniau - Owen Pennant HUWS. Ty'r Cwmniau. Adalwyd ar 16 Ionawr 2019.
  2.  Nasareth i Bethlehem. BBC Cymru (18 Rhagfyr 2008). Adalwyd ar 15 Ionawr 2019.
  3. October 20 2023, Postiwyd ar; Yh, 4:07. "Gwobr i O.P!". Plaid Cymru Arfon. Cyrchwyd 2024-05-27.CS1 maint: numeric names: authors list (link)