Parti ceiliog

Oddi ar Wicipedia
Parti ceiliog
Enghraifft o'r canlynolgŵyl Edit this on Wikidata
Mathbachelor(ette) parties Edit this on Wikidata
Rhan obachelor(ette) parties Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dynion yn cael hwyl ar y bws parti fel rhan o Barti Ceiliog

Mae parti ceiliog[angen ffynhonnell] (hefyd penwythnos ceiliog, parti "stag"[1] neu'r cyfieithiad benthyg parti hydd[2]) yn barti neu benwythnos sy'n cael ei gynnal ar gyfer dyn sydd ar fin priodi.[3]

Ffrind neu frawd y priodfab sy'n trefnu parti ceiliog fel arfer, weithiau gyda chymorth cwmni cynllunio parti ceiliog.

Mae'r cyfeiriadau cyntaf at bartïon ceiliog y Gorllewin yn yr Oxford English Dictionary yn dyddio o'r 19g.[4] Yn draddodiadol, roedd partïon ceiliog yn cynnwys gwledd tei du a gynhaliwyd gan dad y priodfab a oedd yn cynnwys llwncdestun er anrhydedd i'r priodfab a'r briodferch.[5]

Termau[golygu | golygu cod]

Ceir yr enwau stag night, stag do, a stag party yn Saesneg yn yr Deyrnas Unedig, gwledydd y Gymawlad, ac Iwerddon; buck's party yn Awstralia[6]; bachelor party yn yr Unol Daleithiau ac weithiau Canada). Yn Ffrangeg, ceir enterrement de vie de garçon, sef "claddu bywyd bachgen".

Hanes[golygu | golygu cod]

Dyn yn Sweden mewn Mankini pinc fel rhan o hwyl y parti ceiliog

Mae'r parti i'r briodfab yn dyddio'n ôl mor gynnar â'r 5g CC. Roedd yr hen Spartiaid yn dathlu noson olaf y priodfab fel dyn sengl lle buont yn cynnal swper ac yn gwneud llwncdestun ar ei ran.[7]

Ym 1896, trefnodd Herbert Barnum Seeley, ŵyr i PT Barnum, barti ceiliog (a gyferiwyd ato fel yr "Awful Seeley Dinner") i'w frawd ym mwyty Sherry's yn Ninas Efrog Newydd. Roedd gan y parti ddawnsiwr, o'r enw "Little Egypt", a ddawnsiodd yn noeth mewn pwdinau yn ôl y sôn. Diddymwyd y parti yn y bore gan heddwas. Wedi hynny, aeth y teulu Seeley â'r heddwas o flaen bwrdd yr heddlu a honni ei fod wedi ymddwyn mewn ffordd nad oedd yn addas i swyddog y gyfraith.[8] Daeth y digwyddiad hwn i'r amlwg yr hyn a oedd yn digwydd "tu ôl i ddrysau caeedig" gyda phartïon ceiliog.

Yn Saesneg, cafodd “bachelor” — term a olygai “marchog ifanc dan hyfforddiant” yn wreiddiol — ei grybwyll gyntaf yn y 14g i gyfeirio at ddyn di-briod yn The Canterbury Tales gan Geoffrey Chaucer. Ym 1922, cyhoeddwyd y term "bachelor party" yn Journal of Literature, Science and Arts William Chambers ac fe'i disgrifiwyd fel "jolly old [party]".[7]

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Bydd parti ceiliog yn cynnwys, fel rheol, yfed gormodedd o alcohol, gloddesta, drygioni ac yn aml awgrymiadau o odineb neu rhyw. Ceir rhai penwythnosau lle trefnir anturiaethau awyr agored fel weiren wib, saethu paent, neu rasio ceir. Bydd nifer o bartïon ceiliog gan Gymry yn teithio dramor i ganolfannau gwyliau glan môr ar Fôr y Canoldir neu dinasoedd Ewropeaidd enwog fel Prâg neu Berlin.

Parti Ceiliog - Cymru, lleoliadau poblogaidd[golygu | golygu cod]

Bydd Parti Ceiliog weithiau yn llogi stripper fel rhan o'r Parti Ceiliog

Tueddir i ddefnyddio'r term Saesneg stag night wrth drafod parti ceiliog yn y Gymraeg.

Mae nifer o drefi Cymru yn boblogaidd gyda threfnwyr Parti Ceiliog - i ddynion o Gymru a thu hwnt. Ymhlith y rhain mae Dinbych y Pysgod a Chaerdydd.[9][10] Cafwyd cwynion gan drigolion lleol, yn enwedig yn Ninbych-y-pysgod, bod partïon ceiliog yn achosi gormod o drafferthion i'r dre glan môr.[11]

Bydd dynion Cymru yn aml yn trefnu parti ceiliog i gyd-fynd gyda gêm rygbi neu bêl-droed rhyngwladol lle bydd Cymru yn chwarae. Cafwyd ffilm o barti stag yr actor sy'n chwarae rhan 'Callum' ar y gyfres ddrama S4C, Rownd a Rownd fel enghraifft o barti ceiliog.[12]

Ceir cwmnïau sy'n arbenigo mewn trefnu partïon ceiliog sy'n gallu cyfuno digwyddiadau antur awyr agored, bwyd ac yfed a threfnu llety.[13]

Amrywiadau[golygu | golygu cod]

Mae traddodiad y parti ceiliog yn hynafol. Mae dathliad tebyg a chyfochrog hefyd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar, a drefnwyd gan ffrindiau'r darpar briodferch, ar gyfer y briodferch ei hun, a elwir yn barti plu.

Almaen[golygu | golygu cod]

Yn yr Almaen gelwir y gwyliau hwn yn Junggesellenabschied. Mae parti arall hefyd y mae'r cwpl yn ei ddathlu ar y cyd cyn y briodas o'r enw Polterabend. Ar achlysur y Polterabend, y noson cyn y briodas, mae'r gwesteion yn torri ffiol porslen i ddymuno pob lwc i'r briodferch a'r priodfab. Mae'n debyg mai traddodiad cyn-Gristnogol yw hwn: trwy dorri'r jar credir bod ysbrydion maleisus yn cael eu gyrru i ffwrdd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae partïon ceiliog Eingl-Americanaidd eu naws wedi dod yn fwy poblogaidd.

Ffrainc[golygu | golygu cod]

Yn Ffrainc, ac mewn llawer o wledydd Ffrangeg eu hiaith, gelwir y parti ceiliog yn enterrement de vie de garçon, sy'n golygu "angladd yr (hen) fachgendod". Fel mewn gwledydd Eingl-Sacsonaidd, mae'r gwyliau hyn fel arfer yn cael eu dathlu trwy wneud i'r priodfab yfed llawer iawn o alcohol a'i orfodi i ymddwyn yn anystywallt a gwirion.

Prydain[golygu | golygu cod]

Ym Mhrydain, mae partïon ceiliog fel arfer yn cael eu dathlu gyda theithiau byr y tu allan i'r dref, sy'n para penwythnos, gyda chyfranogiad grŵp cyfan ffrindiau'r priodfab. Y lleoliadau mwyaf poblogaidd ar gyfer y math hwn o deithio yw Bournemouth, Brighton, Nottingham, Caeredin, Blackpool, Newcastle a Llundain.[angen ffynhonnell]

Unol Daleithiau a Chanada[golygu | golygu cod]

Ers yr 1980au, mae rhai bachelor parties yn yr Unol Daleithiau wedi cynnwys mynd ar wyliau i gyrchfan dramor,[5] neu wedi cynnwys gwasanaethau menywod sy'n gweithio fel stripwyr neu weinyddesau bronnoeth.

Yn yr Unol Daleithiau, cyrchfan gyffredin iawn ar gyfer trefnu partïon ceiliog yw dinas Las Vegas. Mae wedi dod yn gyffredin yn ddiweddar i drefnu teithiau byr i Montreal neu Fecsico hefyd.

Mae partïon ceiliog yn yr Unol Daleithiau fel arfer yn cael eu nodweddu gan yfed trwm ac yn aml gan bresenoldeb stripwyr. Yn ôl y traddodiad, rhaid cadw'r hyn sy'n digwydd yn ystod y parti yn gyfrinachol rhag y briodferch: a rhaid iddo fod yn fathau o ddathliad na fyddai'n eu cymeradwyo'n union oherwydd bwriad y parti yw dathlu noson olaf y priodfab fel dyn rhydd ac yn rhydd (am gyfnod byr) o ddylanwad ei ddarpar wraig.

Cyrchfannau poblogaidd eraill yw dinasoedd Canada, fel Vancouver a Montreal, neu Niagara Falls, oherwydd y nifer fawr o glybiau stripio sydd yno.

Parti Ceiliog mewn Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cyfarfod Llawn 11/12/2018". Senedd Cymru. Cyrchwyd 2022-10-11.
  2. "https://twitter.com/angharadadra/status/444189905502363648". Twitter (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-11. External link in |title= (help)
  3. "Brisbane Bucks Party Activities & Packages- We Plan It, So You Can Send It!".
  4. Bradshaw, Graham; Bishop, Tom; Tetsuo (2007). Special Section, Updating Shakespeare (yn Saesneg). Ashgate Publishing, Ltd. t. 174. ISBN 9780754690139.
  5. 5.0 5.1 Meaghan (16 June 2009). "A Brief History of Bachelor Parties". Time (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 November 2017. Cyrchwyd 15 December 2017. In the past, a bachelor party could commonly involve a black-tie dinner hosted by the groom's father, with toasts to the groom and the bride. The more recent traditions of hazing, humiliation and debauchery – often consuming entire weekends and involving travel to an exotic destination such as Las Vegas or its nearest available facsimile – became a staple of bad '80s sex comedies.
  6. "10 Great Bucks Night Ideas". 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 March 2014. Cyrchwyd 25 February 2014.
  7. 7.0 7.1 Haire, Meaghan (16 June 2009). "Bachelor Parties". Time. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 November 2017. Cyrchwyd 12 January 2018.
  8. Beebee, Lucius (9 January 1932). "The awful Seeley Dinner". The New Yorker – drwy www.newyorker.com.
  9. "Stag Nights in Cardiff and Swansea". Adventure Britain. Cyrchwyd 27 Medi 2022.
  10. "20 ways to have a brilliant stag weekend in Cardiff". Wales Online. 26 Chwefror 2016.
  11. "Tenby stag and hen do crown could be under threat thanks to new street drinking clampdown". Wales Online. 21 Hydref 2014.
  12. "Ffilmio parti stag Callum / Filming Callum's stag party". Tudalen Facebook Rownd a Rownd. 2 Mehefin 2015.
  13. "North Wales Stag Weekend Activities & Accommodation". Stag Weekends.com. Cyrchwyd 27 Medi 2022.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: parti ceiliog o'r Saesneg "stag party / hen party". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.