Rachel Barrett

Oddi ar Wicipedia
Rachel Barrett
Ganwyd12 Tachwedd 1874 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw26 Awst 1953 Edit this on Wikidata
Faygate Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweithredydd gwleidyddol, golygydd papur newydd, athro, swffragét Edit this on Wikidata
PartnerI. A. R. Wylie Edit this on Wikidata

Roedd Rachel Barrett (12 Tachwedd 1875 - 26 Awst 1953) yn swffragét a golygydd papur newydd o Gaerfyrddin. Ar ôl mynychu Prifysgol Aberystwyth daeth yn athrawes gwyddoniaeth. Yn 1906, rhododd y gorau ar hyn ar ôl clywed Nellie Martell yn siarad am y bleidlais i ferched. Daeth yn aelod o'r Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (neu WSPU) a symudodd i Lundain. Ym 1907 daeth yn drefnydd i'r WSPU ac ar ôl Christabel Pankhurst ffoi i Paris, gofynnwyd i Barrett fod yn gyd-drefnydd yr ymgyrch WSPU. Yn 1912, er nad oedd ganddi gefndir newyddiadurol, cafodd ofalu am y papur newydd The Suffragette oedd newydd ei ffurfio. Cafodd Barrett ei arestio ar fwy nag un achlysur ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r mudiad pleidleisio a rhwng 1913 a 1914, treuliodd amser yn anhysbys gan osgoi ail-arestio.

Roedd mewn perthynas a'r awdur Awstraliaidd I. A. R Wylie; cefnogodd y ddau ohonyn nhw Radclyffe Hall yn ystod treial anlladredig llyfr Hall, The Well of Loneliness.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Barrett yng Nghaerfyrddin ym 1874 i Rees Barrett, syrfëwr tir a ffyrdd, a'i ail wraig Anne Jones, y ddau yn siaradwyr Cymraeg. [1][2] Fe'i magwyd yn nhref Llandeilo gyda'i brawd hynaf Rees a chwaer iau, Janette.[3] Erbyn Cyfrifiad 1881, ei mam Anne oedd yr oedolyn sengl yn byw yn eu cyfeiriad ar Alan Road; bu farw ei thad ym 1878. Addysgwyd Barrett mewn ysgol breswyl yn Stroud, ynghyd â'i chwaer, a enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Aberystwyth. Graddiodd yn 1904 gyda gradd BSc yn Llundain a daeth yn athro gwyddoniaeth. Addysgodd yn ysgolion Llangefni, Caerfyrddin a Phenarth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Crawford 2003, t. 35.
  2. (Saesneg) Morrell, Caroline. "Rachel Barrett". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/63825.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  3. "Rachel Barrett: England and Wales Census, 1881". Familysearch.org. Cyrchwyd 17 Chwefror 2016.