Sgwrs:Iddewiaeth yng Nghymru

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dwi ddim yn siwr beth i alw hyn. Os dewiswn "Iddewon ac Iddewiaeth..." bydd angen erthygl arall ar "Iddewiaeth yng Nghymru" mae'n debyg. Oes pwynt mewn hynny mewn gwirionedd? Wedi'r cyfan mae gennym yr erthyglau Islam yng Nghymru a Cristnogaeth yng Nghymru a dydwi ddim yn gweld y pwynt mewn cael erthyglau am "Fwslemiaid ac Islam yng Nghymru", "Hindwaeth a Hindwiaid..." etc yn ogystal. Ar ben hynny mae hyn yn addasiad o erthygl dan y teitl "History of the Jews in Wales" ar en. (yr unig erthygl am Iddewiaeth yng Nghymru sydd gennyn nhw). Ond be di'r pwynt mewn cael tair erthygl ar gyfer pob crefydd yn y wlad sy'n debyg o fynd dros yr un tir yn union? Dwi'n gofyn hyn hefyd am fod angen creu categori i'r erthygl (mae gennym ni'r categorïau 'Cristnogaeth../Islam yng Nghymru' yn barod). Anatiomaros 16:33, 14 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]