Neidio i'r cynnwys

Tair Chwaer (cyfres deledu)

Oddi ar Wicipedia
Tair Chwaer
Enghraifft o'r canlynolcyfres deledu Edit this on Wikidata


Cyfres ddrama deledu oedd Tair Chwaer. Darlledwyd tair cyfres ar S4C rhwng 1997 a 1999 gan ddiweddu gyda'r ffilm Cymer Dy Siâr, ffilm Nadolig y sianel yn 1999.

Roedd y rhaglen yn adrodd hanes tair chwaer o dde Cymru sy’n chwarae mewn band canu gwlad ac sy’n ceisio ymdopi â threialon bywyd. Darganfydda Sharon bod Alan, ei gŵr, yn cael perthynas odinebus ag Yvonne Post, caiff Lyn ei haflonyddu gan Eifion – mab y bós – sydd mewn cariad â hi, ac mae Janet mewn perthynas â Ben er ei bod yn profi teimladau cryf tuag at Danny, ei chydweithiwr. Mae Mary, eu Mam, yn ddibynnol ar alcohol i ymdopi â’i Mam hithau, Annie May, sy’n dioddef o Alzheimers. Mae partner Mary, Martin, yn fyr ei amynedd â hi ac yn cuddio cyfrinach enfawr am ei dueddiadau rhywiol. Drwy gydol y gyfres ceir golygfeydd o’r dair chwaer yn perfformio mewn clybiau nos a thafarndai fel rhan o’u band canu gwlad.

Manylion Pellach[golygu | golygu cod]

Teitl Gwreiddiol: Tair Chwaer

Blwyddyn: 1997 (Cyfres 1)

Hyd y Ffilm: 6 pennod

Dyddiad y Darllediad Cyntaf: 19 Ion 1997

Cyfarwyddwr: Endaf Emlyn

Sgript gan: Siwan Jones

Stori gan: Siwan Jones

Cynhyrchydd: Pauline Williams

Cwmnïau Cynhyrchu: Ffilmiau Gaucho Cyf.

Genre: Drama, Teulu

Cast a Chriw[golygu | golygu cod]

Prif Gast[golygu | golygu cod]

  • Donna Edwards (Sharon)
  • Ruth Lloyd (Lyn)
  • Llio Millward (Janet)
  • Dewi Rhys Williams (Alan)
  • Sharon Morgan (Mary)
  • Ray Gravell (Martin)
  • (Annie May)
  • Jâms Thomas (Eifion)
  • Emyr Wyn (Byron)
  • Toni Caroll (Yvonne)
  • Dafydd Hywel (Dai)
  • Iwan John (Danny)
  • Rhys Jones (Ben)
  • Geraint Evans (Gareth (mab Sharon & Alan))
  • Darren Williams (Huw (mab Sharon & Alan))
  • Liann Wood (Angharad (merch Sharon & Alan))
  • Natasha Nicholas (Sera (merch Lyn))

Cast Cefnogol[golygu | golygu cod]

Ffotograffiaeth[golygu | golygu cod]

  • Ray Orton

Dylunio[golygu | golygu cod]

  • Hayden Pearce

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod]

Sain[golygu | golygu cod]

  • Nigel Tidball

Golygu[golygu | golygu cod]

  • William Oswald

Cydnabyddiaethau Eraill[golygu | golygu cod]

  • Crewyd y gyfres gyda chefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd, Cynllun 16:9.
  • Adnoddau – Arion, Rank, Splash!, Taran
  • Cynhyrchydd cynorthwyol – Maurice Hunter
  • Cyfarwyddwyr cynorthwyol – Rhian Williams, Rhian Wyn Jones, Nerys Phillips
  • Cydlynydd y Cynhyrchiad – Menna Jones
  • Gwisgoedd – Maxine Brown, Angel Jones (cynorthwydd)
  • Colur – Paula Price, Catrin Richards (cynorthwydd)
  • Caneuon Gwreiddiol – Caryl Parry Jones, Tudur Dylan Jones
  • Cerddorion – Myfyr Isaac, Non Parry
  • Yn 1997 rhyddhawyd crynoddisg o ganeuon cyfresi Tair Chwaer, yn cynnwys 11 cân. (Label Sain. ©S4C)

Manylion Technegol[golygu | golygu cod]

Lliw: Lliw

Gwlad: Cymru

Iaith Wreiddiol: Cymraeg

Gwobrau:

Gŵyl ffilmiau Blwyddyn Gwobr / enwebiad Derbynnydd
BAFTA Cymru 1997 Yr Awdur Gorau ar Gyfer y Sgrin Siwan Jones
Yr Actores Orau Donna Edwards
Y Sinemategraffeg Gorau – Drama Ray Orton

Manylion Atodol[golygu | golygu cod]

Adolygiadau[golygu | golygu cod]

  • Iwan Llwyd, ‘Rifiwio’, Taliesin, 97 (Gwanwyn 1997), tt. 136–139.
  • Mari Jones-Williams, ‘Jiw-jiw-jiwsi!’, Golwg, 9/23 (20 Chwefror 1997), t. 25.

Erthyglau[golygu | golygu cod]

  • ‘Magu plentyn a bod yn chwaer’, Y Cymro (29 Ionawr 1997), t. 14.
  • ‘Chwaer sy’n chwilio am danc i ymlacio ynddo!’, Y Cymro (19 Chwefror 1997), t. 14.
  • Kate Crockett, ‘Teledu trwy’r Oesoedd’, Barn, 443/444 (Ionawr 2000), tt. 69–71.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Tair Chwaer ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.