Neidio i'r cynnwys

Umbria

Oddi ar Wicipedia
Umbria
Mathrhanbarthau'r Eidal Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlUmbri Edit this on Wikidata
PrifddinasPerugia Edit this on Wikidata
Poblogaeth882,015 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2 Ionawr 1927 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethDonatella Tesei Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBethlehem Edit this on Wikidata
NawddsantFfransis o Assisi Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCentral Italy Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd8,456 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr493 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaToscana, Marche, Lazio Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.98°N 12.57°E Edit this on Wikidata
IT-55 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Umbria Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCyngor Rhanbarthol Umbria Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
arlywydd Umbria Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethDonatella Tesei Edit this on Wikidata
Map

Rhanbarth yng nghanolbarth yr Eidal yw Umbria neu weithiau yn Gymraeg Wmbria.[1] Periwgia (Eidaleg: Perugia) yw'r brifddinas; dinas bwysig arall yw Terni, ac mae Assisi yn y rhanbarth yma.

Mae Umbria yn ffinio ar ranbarthau Toscana yn y gorllewin, Marche yn y dwyrain a Lazio yn y de. Ceir mynyddoedd yr Apenninau yn nwyrain y dalaith; y copa uchaf yw Monte Vettore, 2,476 medr o uchder. Mae afon Tiber yn llifo trwy'r rhanbarth ac yn ffurfio'r ffîn a Lazio.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 884,268.[2]

Cafodd y rhanbarth ei enw oddi wrth lwyth yr Umbri, a ymsefydlodd yn yr ardal yn y 6g CC. Yn ddiweddarach, concrwyd llawer o'r diriogaeth gan yr Etrwsciaid, yna meddiannwyd yr ardal gan y Rhufeiniaid.

Lleoliad Umbria yn yr Eidal

Rhennir y rhanbarth yn ddwy dalaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:

Taleithiau Umbria

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, [Umbria].
  2. City Population; adalwyd 23 Rhagfyr 2020

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato