Neidio i'r cynnwys

Kimbolton, Swydd Henffordd

Oddi ar Wicipedia
Kimbolton
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Henffordd
(Awdurdod unedol)
Daearyddiaeth
SirSwydd Henffordd
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.249°N 2.699°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04000785 Edit this on Wikidata
Map
Am y pentref o'r un enw yn Swydd Gaergrawnt, gweler Kimbolton, Swydd Gaergrawnt.

Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Kimbolton.[1] Saif oddeutu 3 mi (4.8 km) i'r gogledd-ddwyrain o Llanllieni (Saesneg: Leominster) a 15 mi (24 km) i'r gogledd o ddinas Henffordd. Saif y pentref ar briffordd yr A49. Yma hefyd y saif Eglwys Sant Iago a adeiladwyd yn y 13g; mae ganddi dwy ffenestr Normanaidd yn y gangell.[2]

Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 468.[3]

Yn 2015 cyhoeddodd Gruffydd Aled Williams gyfrol Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr (Gwasg y Lolfa) ac ynddo mae'n awgrymu dau bosibilrwydd: yn gyntaf, sonia fod llawysgrif a fu ym meddiant Robert Vaughan o'r hengwrt yn allweddol wrth geisio ateb i'r cwestiwn ym mhle y claddwyd Owain. Mae'r cofnod, sydd yn llaw Vaughan, yn awgrymu iddo gael ei gladdu ym mynwent yn y fynwent: Cappel Kimbell lle i claddwyd Owen Glyn : yn sir Henffordd.

Ceir bryngaer o Oes yr Haearn gerllaw, uwch Whyte Brook 1.5 mile (2 km) i'r de-ddwyrain o'r eglwys.[2][4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 1 Chwefror 2022
  2. 2.0 2.1 Pevsner, Nikolaus (1963). The Buildings of England: Herefordshire. Yale University Press. t. 204.
  3. City Population; adalwyd 28 Tachwedd 2022
  4. Leominster and Bromyard (Explorer Maps) (A1 ed.), Ordnance Survey, 2006
Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Henffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.